C.P.D. Dinas Bangor
![]() ![]() Clwb pêl-droed o ddinas Bangor, Gwynedd oedd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor (Saesneg: Bangor City Football Club). Roedd y clwb yn chwarae yn y Gynghrair Undebol, prif adran bêl-droed gogledd Cymnru ac ail adran bêl-droed yng Nghymru. Ffurfiwyd y clwb yn 1876[1] ac maent wedi codi Cwpan Cymru ar wyth achlysur yn ogystal ag ennill Uwch Cynghrair Cymru dair gwaith. Ar 30 Tachwedd 2021, ataliwyd y clwb rhag unrhyw weithgaredd pêl-droed oherwydd methiant i dalu cyflogau. Erbyn 18 Chwefror 2022, cyhoeddodd y clwb eu bod wedi tynnu nôl o'r gynghrair a cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod canlyniadau'r clwb o'r tymor hwnnw wedi eu diddymu. Methodd y clwb wneud cais am drwyddedau rheng 2 neu 3, ac felly nid oeddent yn gallu chwarae mewn unrhyw adran yng ngweddill tymor 2022-23. Diddymwyd cwmni cyfyngedig 'Bangor City Football Club' yn orfodol gan Dy'r Cwmnïau ar 6 Ionawr 2025.[2] Roedd Bangor yn chwarae eu gemau cartref ar faes Nantporth ers mis Ionawr 2012. Mae'r maes yn dal uchafswm o 3,000 o dorf gyda 1,147 o seddi[3]. HanesY Blynyddoedd CynnarFfurfiwyd y clwb ym 1876, gan chwarae eu gemau ym Maes y Dref yn ardal Hirael y ddinas. Llwydddd Bangor i osod eu stamp fel un o brif glybiau Cymru pan gyrhaeddodd y Dinasyddion rownd gyn derfynol cystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877-78[4]. Ar ddiwedd y 19ed ganrif, gyda chlybiau Cymru yn dod yn fwy uchelgeisiol, sefydlwyd sawl cynghrair i geisio efelychu llwyddiant Cynghrair Lloegr. Roedd Prif Gynghrair Cymru yn gwasanaethu ardal Wrecsam tra bod y Combination, oedd wedi ei sefydlu ym 1890 ar gyfer prif dimau Manceinion,Sir Gaerhirfryn a Sir Gaer yn cynnwys rhai o brif dimau Cymru fel Wrecsam a'r Waun. Oherwydd costau teithio, daeth nifer o glybiau gogledd-orllewin Cymru at ei gilydd er mwyn ffurfio Arfordir Gogledd Cymru ym 1893[5]. Ar ôl codi tlws Cwpan Cymru yn 1889 a 1896, ymunodd Bangor â'r Combination League ym 1899[6] gan adael yr ail dîm i chwarae yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru hyd nes i'r Combination League ddirwyn i ben ym 1910. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ail-ymunodd Bangor â Chynghrair yr Arfordir ac ym 1919 bu rhaid i'r clwb adael eu cartref ym Maes y Dref, ac er mwyn cwblhau eu gemau, symudodd Bangor i rannu maes Clwb Criced Bangor yn Ffordd Farrar. Chwarae yn LloegrYm 1932, penderfynodd Bangor ddilyn clybiau fel Wrecsam, Y Rhyl a Bae Colwyn ac ymuno â Chynghrair Birmingham a'r Cylch (Saesneg: Birmingham & District League). Dyma ddechrau ar 60 mlynedd o chwarae pêl-droed dros Glawdd Offa. Ym 1938, symudodd Bangor o Gynghrair Birmingham a'r Cylch i Gynghrair Sir Gaerhirfryn (Saesneg: Lancashire Combination) gan orffen yn ail yn eu tymor cyntaf[7] Ym 1950 ymunodd Bangor â'r Rhyl ac Ail Dîm Wrecsam yng Nghynghrair Sir Gaer (Saesneg: Cheshire League)[8]. Yn 1961-62 llwyddodd Bangor i godi Cwpan Cymru am y trydydd tro a chael eu lle yn Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop am y tro cyntaf. Daeth y clwb allan o'r het i wynebu Napoli o'r Eidal. Yn y cymal cyntaf ar Ffordd Farrar cafwyd buddugoliaeth annisgwyl 2-0 ac yn yr ail gymal yn Yr Eidal llwyddodd Bangor i rwydo unwaith wrth golli 3-1. O dan reolau presennol cystadlaethau UEFA byddai Bangor wedi mynd trwodd i'r rownd nesaf ar y rheol goliau oddi cartref. Ond ar y pryd, gyda'r gêm yn gyfartal 3-3 dros ddau gymal, bu rhaid cael trydydd gêm ar faes niwtral Highbury, cartref Arsenal yn Llundain a llwyddodd Napoli i ennill 2-1. Gadawodd Bangor Gynghrair Sir Gaer ym 1968 er mwyn dod yn aelodau gwreiddiol o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League)[9] ac erbyn 1979, roedd y clwb wedi derbyn gwahoddiad i fod yn aelodau gwreiddiol yr Uwch Gynghrair Undebol (Saesneg: Alliance Premier League) sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Y Gyngres (Saesneg: Football Conference). Ar 12 Mai 1984 daeth Bangor y clwb Cymreig cyntaf i chwarae yn Wembley ers Dinas Caerdydd ym 1927 ar ôl llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Tlws FA Lloegr. Cafwyd gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Northwich Victoria gyda Paul Whelan yn sgorio'r gôl hanesyddol i'r Dinasyddion. Collwyd y gêm ail chwarae ar Faes Fictoria, Stoke 1-2 gyda Phil Lunn yn sgorio i Fangor. Uwch Gynghrair CymruYmunodd Bangor ag Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer y tymor agoriadol ym 1992-93. Llwyddodd y clwb i ennill y Gynghrair ym 1993-94 a 1994-95 cyn sicrhau eu trydydd pencampwriaeth yn 2010-11. Ar ddiwedd tymor 2017-18 cafodd y clwb eu gorfodi i ddisgyn i'r Gynghrair Undebol am iddynt fethu sicrhau'r drwydded domestig sydd ei angen ar gyfer chwarae yn yr Uwch Gynghrair[10]. Record yn Ewrop
Sgwad 2018-19Nodiadau:
Anrhydeddau
Chwaraewyr nodedig
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia