Tymor 2014-15 ydi'r 130ain tymor i dîm cenedlaethol Cymru, 23ain tymor yn hanes Uwch Gynghrair Cymru a'r 128fed tymor o Gwpan Cymru.
Timau Cenedlaethol Cymru
Dynion
Gyda Chris Coleman wrth y llyw, cychwynodd Cymru eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc.
Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp B[1] gyda Bosnia a Hercegovina, Gwlad Belg, Israel, Cyprus ac Andorra hefyd yn y grŵp[2].
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru wynebu Andorra mewn gêm bêl-droed ar y lefel uchaf.
Capiau cyntaf
Casglodd Jake Taylor[3] ei gap cyntaf dros Gymru yn ystod y tymor.
Canlyniadau
Euro 2016 Grŵp B Gêm 1
|
9 Medi 2014
|
Euro 2016 Grŵp B Gêm 2
|
10 Hydref 2014
|
Euro 2016 Grŵp B Gêm 3
|
13 Hydref 2014
|
Euro 2016 Grŵp B Gêm 4
|
16 Tachwedd 2014
|
Euro 2016 Grŵp B Gêm 5
|
28 Mawrth 2015
|
Sammy Offer Stadium, Haifa, IsraelTorf: 30,200 Dyfarnwr: Milorad Mazić ![Baner Serbia](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/ff/Flag_of_Serbia.svg/22px-Flag_of_Serbia.svg.png)
|
Euro 2016 Grŵp B Gêm 6
|
12 Mehefin 2014
|
Merched
Gorffenodd Cymru, o dan reolaeth Jarmo Matikainen, yn drydydd yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2015 yng Nghanada. Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp 6[4] gyda Lloegr, Wcrain, Belarws, Twrci a Montenegro hefyd yn y grŵp.
Ym mis Ionawr 2014, cyhoeddodd Matikainen y byddai'n gadael ei swydd gyda Chymru wedi i'r ymgyrch ddod i ben[5] ac ym mis Hydref 2014, penodwyd Jayne Ludlow yn olynydd iddo fel rholwr y timau merched cenedlaethol[6].
Canlyniadau
Gêm gyfeillgar
|
3 Awst 2014
|
Palmerston Park, DumfriesTorf: 448 Dyfarnwr: Morag Pirie ![Baner Yr Alban](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/10/Flag_of_Scotland.svg/22px-Flag_of_Scotland.svg.png)
|
Cwpan y Byd 2015 Grŵp 6 Gêm 9
|
21 Awst 2014
|
Cwpan y Byd 2015 Grŵp 6 Gêm 10
|
21 Tachwedd 2014
|
Arena Lviv, LvivTorf: 673 Dyfarnwr: Esther Staubli ![Baner Y Swistir](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f3/Flag_of_Switzerland.svg/20px-Flag_of_Switzerland.svg.png)
|
Cwpan Istria Grŵp C Gêm 1
|
4 Mawrth 2015
|
Cwpan Istria Grŵp C Gêm 2
|
6 Mawrth 2015
|
Cwpan Istria Grŵp C Gêm 3
|
9 Mawrth 2015
|
Cwpan Istria Gêm 5/6 safle
|
11 Mawrth 2015
|
Grŵp 6
Grŵp Rhagbrofol 6 yng ngemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2015 yng Nghanada
|
Tîm
|
Ch
|
E
|
Cyf
|
C
|
+
|
-
|
GG
|
Pt
|
1. |
Lloegr
|
10 |
10 |
0 |
0 |
52 |
1 |
+51 |
30
|
2. |
Wcrain
|
10 |
7 |
1 |
2 |
34 |
29 |
+5 |
22
|
3. |
Cymru
|
10 |
6 |
1 |
3 |
18 |
9 |
+9 |
19
|
4. |
Twrci
|
10 |
4 |
0 |
6 |
12 |
31 |
-19 |
12
|
5. |
Belarws
|
10 |
2 |
0 |
8 |
12 |
31 |
-19 |
6
|
5. |
Montenegro
|
10 |
0 |
0 |
10 |
6 |
53 |
-47 |
0
|
Llwyddodd Lloegr i gyrraedd Cwpan y Byd 2015 yng Nghanada gyda Wcrain yn colli yn erbyn Yr Eidal yn y gemau ail gyfle.
Clybiau Cymru yn Ewrop
Roedd Aberystwyth yn cynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf ers ymddangos yn Nhlws Intertoto 2003-04 gydag Airbus UK yn ymddangos yn y gystadleuaeth am yr ail flwyddyn o'r bron a Bangor yn ymddangos yn Ewrop am y 15ed tro. Colli yn drwm oedd hanes Aberystwyth a Bangor yn erbyn Derry City o Gynghrair Iwerddon a Stjarnan o Wlad yr Iâ ond roedd Airbus UK yn anlwcus i golli o 3-2 dros y ddau gymal yn erbyn FK Haugesund o Norwy.
Yng Nghynghrair y Pencampwyr, roedd Y Seintiau Newydd yn ymddangos yn Ewrop am y 15ed tymor o'r bron ond colli 3-0 dros y ddau gymal yn erbyn ŠK Slovan Bratislava o Slofacia oedd eu hanes. Llwyddodd Scott Ruscoe i dorri'r record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau yn Ewrop gan chwaraewr o Uwch Gynghrair Cymru pan ddaeth i'r maes yn ystod y cymal cyntaf o'r gêm yn erbyn Slovan Bratislava i wneud ei 30ed ymddangosiad Ewropeaidd.
Yng Nghynghrair Pencampwyr y Merched roedd Met Caerdydd yn cynrychioli Cymru am yr ail dro ar ôl cipio Uwch Gynghrair Merched Cymru 2013-14. Daeth Met Caerdydd allan o'r het i wynebu Atlético Ouriense o Bortiwgal, Standard Liège o Wlad Belg a Phrifysgol Tel Aviv o Israel gyda'r gemau yn cael eu cynnal ym Mhortiwgal.
Cynghrair Y Pencampwyr
Ail Rownd Rhagbrofol
Štadión Pasienky, BratislavaTorf: 4,838 Dyfarnwr: Pavle Radovanović ![Baner Montenegro](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/64/Flag_of_Montenegro.svg/22px-Flag_of_Montenegro.svg.png)
|
ŠK Slovan Bratislava yn ennill 3-0 dros ddau gymal
Cynghrair Europa
Rownd Rhagbrofol Gyntaf
Haugesund Stadion, HaugesundTorf: 3,079 Dyfarnwr: Fran Jović ![Baner Croatia](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1b/Flag_of_Croatia.svg/22px-Flag_of_Croatia.svg.png)
|
FK Haugesund yn ennill 3-2 dros ddau gymal
Derry City yn ennill 9-0 dros ddau gymal
Stjörnuvöllur, GardabaerDyfarnwr: Aleksandrs Anufrijevs ![Baner Latfia](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/84/Flag_of_Latvia.svg/22px-Flag_of_Latvia.svg.png)
|
Stjarnan yn ennill 8-0 dros ddau gymal
Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA
Estádio Dr. Magalhães Pessoa, LeiriaTorf: 20 Dyfarnwr: Marta Arcedo ![Baner Sbaen](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9a/Flag_of_Spain.svg/22px-Flag_of_Spain.svg.png)
|
Estádio Dr. Magalhães Pessoa, LeiriaTorf: 40 Dyfarnwr: Viola Raudziņa ![Baner Latfia](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/84/Flag_of_Latvia.svg/22px-Flag_of_Latvia.svg.png)
|
Estádio Municipal, FátimaTorf: 700 Dyfarnwr: Viola Raudziņa ![Baner Latfia](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/84/Flag_of_Latvia.svg/22px-Flag_of_Latvia.svg.png)
|
Grŵp 8
Grŵp Rhagbrofol 8 yn rownd rhagbrofol Cynghrair Pencampwyr y Merched
Uwch Gynghrair Cymru
Cychwynodd tymor Uwch Gynghrair Cymru ar 22 Awst 2014 gyda Derwyddon Cefn yn cymryd eu lle ymysg y 12 Disglair ar ôl sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Undebol Huws Gray gyda Lido Afan yn colli eu lle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl gorffen ar waelod tabl 2013-14. Gan nad oedd clybiau Trefynwy na Ffynnon Taf, a orffennodd yn safleoedd dyrchafiad Cynghrair McWhirter's De Cymru, wedi sicrhau Trwydded Ddomestig, cadwodd Prestatyn eu lle yn yr Uwch Gynghrair er gorffen yn safleoedd y cwymp yn nhymor 2013-14[7].
Llwyddodd Y Seintiau Newydd i gipio'r bencampwriaeth am y nawfed tro yn eu hanes[8] gyda'r Bala yn sicrhau yr ail safle a'u lle yng Nghynghrair Europa ar gyfer tymor 2015-16.
Source: Sgorio
Rheolau ar gyfer dethol safleoedd:
1) pwyntiau; 2) gwahaniaeth goliau; 3) goliau o blaid.
(P) = Pencampwyr; (C) = Cwympo; (D) = Dyrchafiad; (Y) = Ymadael o'r gystadleuaeth; (G) = Ennill gemau ail gyfle; (A) = Camu ymlaen i'r rownd nesaf.
Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
Gan fod Y Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr yn ogystal ag ennill Cwpan Cymru llwyddodd Airbus UK, orffennodd yn drydydd, i sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ac osgoi'r gemau ail gyfle. O'r herwydd, cyfarfu Aberystwyth, orffennodd yn bedwerydd, gyda Cei Connah oedd yn seithfed tra bo Port Talbot, oedd yn bumed, yn wynebu Y Drenewydd orffennodd yn chweched.
Roedd buddugoliaeth Y Drenewydd yn y rownd derfynol yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europ ar gyfer tymor 2015-16.
- Rownd Gynderfynol
- Rownd Derfynol
Cwpan Cymru
Cafwyd 205 o dimau yng Nghwpan Cymru 2014-15[9] gyda'r Y Drenewydd yn llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf ers 1896-97[10] , ond cipiodd Y Seintiau Newydd y trebl ddomestig â dwy gôl gan Matty Williams.
Rownd Derfynol
Cwpan Word
Roedd 28 o dimau yng Nghwpan Word 2014-15[11] gyda'r Barri, Dinbych, Llanidloes a Merthyr yn ymuno â chlybiau Uwch Gynghrair Cymru
a chwe chlwb o Gynghrair Huws Gray a Chynghrair Cymru'r De yn y rownd gyntaf.
Rownd Derfynol
Uwch Gynghrair Merched Cymru
Tabl Uwch Gynghrair Merched Cymru
Source: Sgorio
Rheolau ar gyfer dethol safleoedd:
1) pwyntiau; 2) gwahaniaeth goliau; 3) goliau o blaid.
(P) = Pencampwyr; (C) = Cwympo; (D) = Dyrchafiad; (Y) = Ymadael o'r gystadleuaeth; (G) = Ennill gemau ail gyfle; (A) = Camu ymlaen i'r rownd nesaf.
Cwpan Merched Cymru
Cafwyd 23 o glybiau yn cystadlu yng Nghwpan Merched Cymru ar gyfer 2014-15[12] gyda Merched Dinas Abertawe yn cipio'r tlws am yr ail dro yn eu hanes.
Rownd Derfynol
Super Cup Uefa
Cynhaliwyd Super Cup Uefa yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd ar 12 Awst rhwng deiliaid Cynghrair y Pencampwyr, Real Madrid a deiliad Cynghrair Europa, Sevilla.
Gwobrau
Uwch Gynghrair Cymru
Rheolwr y Flwyddyn: Craig Harrison (Y Seintiau Newydd)[13]
Chwaraewr y Flwyddyn: Chris Venables (Aberystwyth)[13]
Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: Sean Miller (Cei Connah)[13]
Uwch Gynghrair Merched Cymru
Chwaraewr y Flwyddyn: Ellie Sargent (Met Caerdydd)[14]
Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: Chloe Lloyd (Merched Dinas Abertawe)[14]
Marwolaethau
- 23 Tachwedd 2014: John Neal, 82, cyn chwaraewr Hull City, Swindon Town, Aston Villa a Southend United a chyn reolwr Wrecsam, Middlesbrough a Chelsea.[15]
- 26 Mawrth 2015: Ian Moir, 71, cyn chwaraewr Manchester United, Blackpool, Dinas Caer, Wrecsam ac Amwythig.[16]
Cyfeiriadau