C.P.D. Tref Dinbych
Clwb pêl-droed o dref Dinbych, Sir Ddinbych ydy Clwb Pêl-droed Tref Dinbych (Saesneg: Denbigh Town Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru. Ffurfiwyd y clwb ym 1880[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref yn Central Park. HanesChwaraeodd y clwb yng Nghwpan Cymru am y tro cyntaf yn nhymor 1882-83 ond daeth llwyddiant cyntaf y clwb ym 1923-24 yng Nghwpan Amatur Cymru wrth iddynt guro Clwb Athletic Lovell o Gasnewydd yn y rownd derfynol yn Yr Wyddgrug.[2] Ymunodd y clwb â Chynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) ym 1957-58[3] cyn dod yn un o glybiau gwreiddiol Cynghrair Clwyd ym 1974-75[4]. Cafwyd dyrchafiad i'r Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1997-98[5]. Llwyddodd y clwb i gyrraedd rownd derfynol un o prif gystadlaethau pêl-droed Cymru am y tro cyntaf yn 2015-16 wrth gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cynghrair Cymru cyn colli yn erbyn Y Seintiau Newydd. Anrhydeddau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia