C.P.D. Airbus UK Brychdyn
Clwb pêl-droed o dref Brychdyn, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Airbus UK Brychdyn (Saesneg: Airbus UK Broughton Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru. Ffurfiwyd y clwb ym 1946 fel clwb pêl-droed ffatri awyrennau Vickers-Armstrong sydd, erbyn heddiw, yn berchen i gwmni Airbus. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Y Maes Awyr, maes sy'n dal uchafswm o 1,600 o dorf. HanesFfurfwyd y Clwb ym 1946, fel CPD Vickers-Armstrong ac ers hynny mae'r clwb wedi newid eu henwau wrth i'r ffatri newid perchnogaeth. Dros y blynyddoedd maent wedi eu hadnabod fel de Havillands, Hawker Siddeley, British Aerospace, a BAE Systems. Ar ôl treulio blynyddoedd yng Nghynghreiriau Caer a'r Cyffiniau ac Ardal Wrecsam, dechreuodd y clwb esgyn trwy'r cynghreiriau cyn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol Cymru ar ddiwedd tymor 1999–2000[1]. Yn eu tymor cyntaf yn y Gynghrair Undebol newidiwyd eu henwau i Airbus UK a sicrhawyd dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwedd tymor 2003-04[2]. Llwyddodd y clwb i sicrhau eu lle yn nghystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf yn 2013-14 ac er sicrhau dwy gêm gyfartal yn erbyn Ventspils o Latfia, colli oedd hanes Airbus diolch i'r rheol goliau oddi cartref. Record yn Ewrop
Anrhydeddau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia