Tymor 2015-16 oedd y 131ain tymor i dîm cenedlaethol Cymru, 24ain tymor yn hanes Uwch Gynghrair Cymru a'r 129fed tymor o Gwpan Cymru.
Llwyddodd Cymru i gyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth UEFA Euro 2016 cyn colli yn erbyn Portiwgal a llwyddodd Joe Allen ac Aaron Ramsey i ennill eu lle yn nhîm y bencampwriaeth gafodd ei ddewis gan UEFA[1].
Cwblhaodd Y Seintiau Newydd y trebl ddomestig wrth ennill y bencampwriaeth am y pumed tymor yn olynol yn ogystal â chodi Cwpan Cymru a Chwpan Word.
Timau Cenedlaethol Cymru
Dynion
Gyda Chris Coleman wrth y llyw, daeth Cymru â'u hymgyrch i gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc i ben gan orffen yn ail yn y grŵp a sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes[2].
Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp B[3] gyda Bosnia a Hercegovina, Gwlad Belg, Israel, Cyprus ac Andorra hefyd yn y grŵp[4].
Ym mis Gorffennaf 2015 llwyddodd Cymru i sicrhau eu lle ymysg y 10 uchaf ar restr detholion FIFA am y tro cyntaf yn eu hanes[5] ac ym mis Hydref 2015, cyrhaeddodd Cymru eu safle uchaf erioed wrth gyrraedd rhif wyth ar y rhestr detholion[6].
Capiau Cyntaf
Casglodd Tom Lawrence[7], Adam Henley[8] ac Owain Fôn Williams[8] eu capiau cyntaf dros Gymru yn ystod y tymor.
Canlyniadau
Euro 2016 Grŵp B Gêm 7
|
3 Medi 2015
|
GPS Stadion, Nicosia, CyprusTorf: 10,000 Dyfarnwr: Szymon Marciniak ![Baner Gwlad Pwyl](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/Flag_of_Poland.svg/22px-Flag_of_Poland.svg.png)
|
Euro 2016 Grŵp B Gêm 8
|
6 Medi 2015
|
Euro 2016 Grŵp B Gêm 9
|
10 Hydref 2015
|
Stadion Bilino polje, ZenicaTorf: 10,250 Dyfarnwr: Alberto Undiano Mallenco ![Baner Sbaen](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9a/Flag_of_Spain.svg/22px-Flag_of_Spain.svg.png)
|
Euro 2016 Grŵp B Gêm 10
|
13 Hydref 2015
|
Gêm Gyfeillgar
|
13 Tachwedd 2015
|
Grŵp Rhagbrofol B yng ngemau rhagbrofol ar gyfer Euro 2016 yn Ffrainc
Merched
Gyda Jayne Ludlow wrth y llyw, dechreuodd Cymru eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2017 yn Yr Iseldiroedd. Cymru yw'r trydydd detholyn yng Ngrŵp 8[9] gyda Norwy, Awstria, Israel a Casachstan hefyd yn y grŵp.
Canlyniadau
Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 1
|
22 Medi 2015
|
NV Arena, Sankt Pölten Torf: 1,050 Dyfarnwr: Florence Guillemin ![Baner Ffrainc](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c3/Flag_of_France.svg/22px-Flag_of_France.svg.png)
|
Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 2
|
27 Hydref 2015
|
Color Line Stadion, ÅlesundTorf: 3,483 Dyfarnwr: Bibiana Steinhaus ![Baner Yr Almaen](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/ba/Flag_of_Germany.svg/22px-Flag_of_Germany.svg.png)
|
Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 3
|
26 Tachwedd 2015
|
Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 4
|
26 Tachwedd 2015
|
Ramat Gan Stadium, Ramat GanTorf: 120 Dyfarnwr: Marta Frias Acedo ![Baner Sbaen](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9a/Flag_of_Spain.svg/22px-Flag_of_Spain.svg.png)
|
Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 5
|
12 Ebrill 2016
|
Ramat Gan Stadium, Ramat GanTorf: 545 Dyfarnwr: Tania Fernandes Morais ![Baner Lwcsembwrg](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/da/Flag_of_Luxembourg.svg/22px-Flag_of_Luxembourg.svg.png)
|
Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 6
|
7 Mehefin 2016
|
Stadiwm Casnewydd, CasnewyddTorf: 703 Dyfarnwr: Zuzana Kováčová ![Baner Slofacia](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e6/Flag_of_Slovakia.svg/22px-Flag_of_Slovakia.svg.png)
|
Clybiau Cymru yn Ewrop
Yng Nghynghrair y Pencampwyr, ymddangosodd Y Seintiau Newydd yn Ewrop am y 16ed tymor o'r bron. Ar ôl trechu B36 Tórshavn o Ynysoedd Faroe, roedd angen amser ychwanegol ar Videoton o Hwngari i guro'r tîm o Groesosowallt yn yr ail rownd rhagbrofol.
Yng Nghyngrair Europa roedd Y Drenewydd yn cynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf ers ymddangos yng Nghwpan UEFA ym 1996-97[10] a chafwyd buddugoliaeth wych yn erbyn Valletta[11] yn y rownd rhagbrofol gyntaf cyn colli yn erbyn FC København o Denmarc yn yr ail rownd. Roedd Airbus UK yn ymddangos yn y gystadleuaeth am y drydedd flwyddyn o'r bron[10] ac er sicrhau gêm gyfartal yn Croatia yn erbyn Lokomotiva Zagreb, roedd y golled yn y cymal cyntaf yn Nantporth, Bangor yn ormod o fynydd i'w oresgyn[11]. Ac roedd gôl yn yr eiliadau olaf o'r ail gymal yn erbyn Differdange 03 yn ormod i Y Bala[11][12], oedd yn ymddangos yn Ewrop am yr ail dro[10].
Cynghrair Y Pencampwyr
Rownd Rhagbrofol Gyntaf
Tórsvøllur, TórshavnDyfarnwr: Sven Bindels ![Baner Lwcsembwrg](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/da/Flag_of_Luxembourg.svg/22px-Flag_of_Luxembourg.svg.png)
|
Y Seintiau Newydd yn ennill 6-2 dros y ddau gymal
Ail Rownd Rhagbrofol
Videoton yn ennill 2-1 dros ddau gymal
Cynghrair Europa
Rownd Rhagbrofol Gyntaf
Stade Municipal de la Ville, DifferdangeDyfarnwr: Milan Ilić ![Baner Serbia](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/ff/Flag_of_Serbia.svg/22px-Flag_of_Serbia.svg.png)
|
Differdange 03 yn ennill 4-3 dros y ddau gymal
Stadion Kranjčevićeva, ZagrebDyfarnwr: Manuel Schuettengruber ![Baner Awstria](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/41/Flag_of_Austria.svg/22px-Flag_of_Austria.svg.png)
|
Lokomotiva Zagreb yn ennill 5-3 dros y ddau gymal
Hibernians Stadium, PaolaDyfarnwr: Mihaly Fabian ![Baner Hwngari](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c1/Flag_of_Hungary.svg/22px-Flag_of_Hungary.svg.png)
|
Y Drenewydd yn ennill 4-2 dros y ddau gymal
Ail Rownd Rhagbrofol
Telia Parken, CopenhagenTorf: 8,104 Dyfarnwr: Mete Kalkavan ![Baner Twrci](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b4/Flag_of_Turkey.svg/22px-Flag_of_Turkey.svg.png)
|
FC København yn ennill 5-1 dros ddau gymal
Uwch Gynghrair Cymru
Cychwynodd tymor Uwch Gynghrair Cymru ar 22 Awst 2015 gyda Llandudno a Hwlffordd yn cymryd eu lle ymysg y 12 Disglair ar ôl sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Undebol Huws Gray a Chynghrair Cymru'r De. Cwympodd Prestatyn a Derwyddon Cefn i Gynghrair Undebol Huws Gray ar ôl gorffen ar waelod tabl 2014-15. Llwyddodd Y Seintiau Newydd i gipio'r Bencampwriaeth am y degfed tro yn eu hanes gyda'r Bala yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ar gyfer 2016-17.
Source: http://s4c.cymru/sgorio Sgorio
Rheolau ar gyfer dethol safleoedd:
1) pwyntiau; 2) gwahaniaeth goliau; 3) goliau o blaid.
1 Port Talbot yn colli eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru am fethu sicrhau trwydded ddomestig.
(P) = Pencampwyr; (C) = Cwympo; (D) = Dyrchafiad; (Y) = Ymadael o'r gystadleuaeth; (G) = Ennill gemau ail gyfle; (A) = Camu ymlaen i'r rownd nesaf.
Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
Gan fod Y Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr yn ogystal ag ennill Cwpan Cymru llwyddodd Llandudno, orffennodd yn drydydd, i sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ac osgoi'r gemau ail gyfle. O'r herwydd, cyfarfu Cei Connah, orffennodd yn bedwerydd, gyda Caerfyrddin oedd yn seithfed tra bo Y Drenewydd, oedd yn bumed, yn wynebu Airbus UK orffennodd yn chweched.
Roedd buddugoliaeth Cei Connah yn y rownd derfynol yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ar gyfer tymor 2016-17.
- Rownd Gynderfynol
- Rownd Derfynol
Cwpan Cymru
Cafwyd 199 o dimau yng Nghwpan Cymru 2015-16[13].
Rownd Derfynol
Cwpan Word
Llwyddodd Dinbych o gynghrair Huws Gray i drechu tri clwb o Uwch Gynghrair Cymru ar y ffordd i'r rownd derfynol. Cafwyd buddugoliaethau yn erbyn Y Rhyl, Airbus UK a Cei Connah cyn iddynt wynebu Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol ar faes Llandudno.
Rownd Derfynol
Cwpan FA Lloegr
Er eu bod yn glybiau Cymreig mae Abertawe, C.P.D. Dinas Caerdydd, Casnewydd, Wrecsam, Bae Colwyn a Merthyr yn cystadlu yng Nghwpan FA Lloegr gan eu bod yn chwarae ym mhyramid bêl-droed Lloegr yn hytrach na phyramid bêl-droed Cymru.
Trydedd Rownd
Ail Rownd
Rownd Gyntaf
Pedwaredd Rownd Rhagbrofol
Ail Rownd Rhagbrofol
Rownd Rhagbrofol Gyntaf
Marwolaethau
- 5 Awst 2015: Tony Millington, 72, cyn chwaraewr West Bromwich Albion, Crystal Palace, Peterborough United, Abertawe a Chymru[14]
- 12 Awst 2015: Chris Marustik, 54, cyn chwaraewr Abertawe, Caerdydd, Casnewydd and a Chymru[15]
- 4 Ionawr 2016: John Roberts, 69, cyn chwaraewr Abertawe, Northampton Town, Arsenal, Birmingham City, Wrecsam, Hull City a Chymru[16]
Cyfeiriadau