C.P.D. Llandudno
Clwb pêl-droed o Landudno, Sir Conwy ydy Clwb Pêl-droed Llandudno (Saesneg: Llandudno Football Club). Mae lle i gredu fod clwb pêl-droed yn bodoli yn Llandudno ym 1878, ac er fod y llinach i'r clwb presennol yn aneglur, mae'r clwb yn cydnabod 1878 fel y blwyddyn y cafodd ei ffurfio[1]. Chwaraeir eu gemau cartref ym Mharc Maesdu, Llandudno. HanesRoedd clybiau pêl-droed yn bodoli yn nhref Llandudno yn ystod y 1880au gyda Llandudno Gloddaeth yn cystadlu yng Nghwpan Cymru ym 1886-87[2] a chlwb Llandudno Swifts yn aelodau gwreiddiol Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru ym 1893-94[3]. Roedd CPD Llandudno yn aelodau o gynghrair Arfordir Gogledd Cymru ym 1901-02[4] a hefyd yn aelodau gwreiddiol Cynghrair Cenedlaethol Cymru (Gogledd) ym 1921 hyd nes i'r Gynghrair ddod i ben ym 1930. Llwyddodd y clwb i ennill pencampwriaeth cyntaf Cynghrair Cymru (Gogledd) ym 1935-36[5] a heb law am flynyddoedd yr Ail Ryfel Byd, bu'r clwb yn chwarae yn y gynghrair yma hyd nes cwympo i Gynghrair Bro Conwy ym 1973-74. Ailffurfiwyd y clwb ym 1988 a dychwelodd Llandudno i brif adran gogledd Cymru, y Gynghrair Unebol ym 1993-94[6] gan sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2014-15. Ar ôl gorffen yn drydydd yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair llwyddodd Llandudno i sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa am y tro cyntar ar gyfer tymor 2016-17. Record yn Ewrop
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia