Tymor 2016-17 yw'r 132ain tymor i dîm cenedlaethol Cymru, 25ain tymor yn hanes Uwch Gynghrair Cymru a'r 130ain tymor o Gwpan Cymru.
Timau Cenedlaethol Cymru
Dynion
Gyda Chris Coleman wrth y llyw, cychwynodd Cymru eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.
Cymru yw'r prif ddetholyn yng Ngrŵp D[1] gyda Awstria, Serbia, Iwerddon, Moldofa a Georgia hefyd yn y grŵp[2].
Canlyniadau
Cwpan y Byd 2018 Grŵp D Gêm 1
|
5 Medi 2016
|
Cwpan y Byd 2018 Grŵp D Gêm 2
|
6 Hydref 2016
|
Ernst-Happel-Stadion, FiennaTorf: 32,652 Dyfarnwr: Cüneyt Çakır ![Baner Twrci](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b4/Flag_of_Turkey.svg/22px-Flag_of_Turkey.svg.png)
|
Cwpan y Byd 2018 Grŵp D Gêm 3
|
9 Hydref 2016
|
Cwpan y Byd 2018 Grŵp D Gêm 4
|
12 Tachwedd 2016
|
Cwpan y Byd 2018 Grŵp D Gêm 5
|
24 Mawrth 2017
|
Merched
Gyda Jayne Ludlow wrth y llyw, daeth Cymru â'u hymgyrch i gyrraedd Euro 2017 yn Yr Iseldiroedd i ben gan orffen yn drydydd yng Ngrŵp 8. Cymru oedd trydydd detholyn y Grŵp[3]. Llwyddodd y prif ddetholion Norwy a'r ail ddetholion, Awstria, i sichrau eu lle yn y rowndiau terfynol.
Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 7
|
15 Medi 2016
|
Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 8
|
15 Medi 2016
|
Cwpan Cyprus Grŵp C Gêm 1
|
1 Mawrth 2017
|
Tasos Marko, Paralimni, Cyprus
|
Cwpan Cyprus Grŵp C Gêm 2
|
3 Mawrth 2017
|
Tasos Marko, Paralimni, Cyprus
|
Cwpan Cyprus Grŵp C Gêm 3
|
6 Mawrth 2017
|
Tasos Marko, Paralimni, Cyprus
|
Cwpan Cyprus Gêm 5ed Safle
|
8 Mawrth 2017
|
Tasos Marko, Paralimni, Cyprus
|
Grŵp 8
Grŵp Rhagbrofol 8 yng ngemau rhagbrofol ar gyfer Euro 2017 yn Yr Iseldiroedd. Llwyddodd y prif ddetholion Norwy a'r ail ddetholion, Awstria, i sichrau eu lle yn y rowndiau terfynol.
|
Tîm
|
Ch
|
E
|
Cyf
|
C
|
+
|
-
|
GG
|
Pt
|
1. |
Norwy
|
8 |
7 |
1 |
0 |
29 |
2 |
+27 |
22
|
2. |
Awstria
|
8 |
5 |
2 |
1 |
18 |
4 |
+14 |
17
|
3. |
Cymru
|
8 |
3 |
2 |
3 |
13 |
11 |
+2 |
11
|
4. |
Casachstan
|
8 |
1 |
1 |
6 |
2 |
30 |
-28 |
4
|
5. |
Israel
|
8 |
0 |
2 |
6 |
2 |
17 |
-15 |
2
|
Clybiau Cymru yn Ewrop
Yng Nghynghrair y Pencampwyr, ymddangosodd Y Seintiau Newydd yn Ewrop am yr 17eg tymor o'r bron. Ar ôl trechu Tre Penne o San Marino yn y rownd rhagbrofol cyntaf llwyddodd y tîm o Groesoswallt i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn APOEL yng nghymal cyntaf yr ail rownd cyn colli yn yr ail gymal yng Nghyprus. Llwyddodd Y Bala i gyrraedd Ewrop am y trydydd tro yn eu hanes gyda Cei Connah a Llandudno yn ymddangos yng nghystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Llwyddodd Cei Connah i sicrhau gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Stabæk cyn synnu'r tîm o Norwy â buddugoliaeth 1-0 yn yr ail gymal.
Cynghrair Y Pencampwyr
Rownd Rhagbrofol Gyntaf
Stadiwm San Marino, SerravalleTorf: 743 Dyfarnwr: Lorenc Jemini ![Baner Albania](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/36/Flag_of_Albania.svg/22px-Flag_of_Albania.svg.png)
|
Y Seintiau Newydd yn ennill 5-1 dros y ddau gymal
Ail Rownd Rhagbrofol
GSP Stadium, NicosiaDyfarnwr: Nikola Dabanović ![Baner Montenegro](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/64/Flag_of_Montenegro.svg/22px-Flag_of_Montenegro.svg.png)
|
APOEL yn ennill 3-0 dros ddau gymal
Cynghrair Europa
Rownd Rhagbrofol Gyntaf
Gamla Ullevi, GothenburgTorf: 6,074 Dyfarnwr: Martin Lundby ![Baner Norwy](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d9/Flag_of_Norway.svg/22px-Flag_of_Norway.svg.png)
|
IFK Göteborg yn ennill 7-1 dros ddau gymal
Tele2Arena, StockholmTorf: 6,127 Dyfarnwr: Kirill Levnikov ![Baner Rwsia](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f3/Flag_of_Russia.svg/22px-Flag_of_Russia.svg.png)
|
AIK yn ennill 4-0 dros ddau gymal
Fredrikstad Stadion, Fredrikstad Torf: 384 Dyfarnwr: Laurent Kopriwa ![Baner Lwcsembwrg](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/da/Flag_of_Luxembourg.svg/22px-Flag_of_Luxembourg.svg.png)
|
Cei Connah yn ennill 1-0 dros ddau gymal
Uwch Gynghrair Cymru
Cychwynodd tymor Uwch Gynghrair Cymru ar 13 Awst 2016 gyda Derwyddon Cefn a Met Caerdydd yn cymryd eu lle ymysg y 12 Disglair ar ôl sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Undebol Huws Gray a Chynghrair Cymru'r De. Cwympodd Hwlffordd i Gynghrair Cymru'r De ar ôl gorffen ar waelod tabl 2015-16 gyda Port Talbot hefyd yn cwympo ar ôl methu sicrhau trwydded domestig[4].
Llwyddodd Y Seintiau Newydd i sefydlu record byd yn ystod y tymor wrth sicrhau 27 buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth gan dorri record Ajax o'r Iseldiroedd[5][6] cyn cipio 'r Bencampwriaeth am yr 11eg tro yn eu hanes ac am y chweched tymor o'r bron â buddugoliaeth yn erbyn Bangor ar 4 Mawrth, 2017[7].
Source: http://s4c.cymru/sgorio Sgorio
Rheolau ar gyfer dethol safleoedd:
1) pwyntiau; 2) gwahaniaeth goliau; 3) goliau o blaid.
(P) = Pencampwyr; (C) = Cwympo; (D) = Dyrchafiad; (Y) = Ymadael o'r gystadleuaeth; (G) = Ennill gemau ail gyfle; (A) = Camu ymlaen i'r rownd nesaf.
Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
Gan fod Y Bala, orffennodd yn drydydd, wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa trwy ennill Cwpan Cymru, bydd Bangor, orffennodd yn bedwerydd yn wynebu Y Drenewydd oedd yn seithfed tra bo gyda Caerfyrddin, oedd yn bumed, yn wynebu Met Caerdydd orffennodd yn chweched yn y gemau ail gyfle.
Roedd buddugoliaeth Bangor yn y rownd derfynol yn golygu eu bod yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ar gyfer tymor 2017-18.
- Rownd Gynderfynol
- Rownd Derfynol
Cwpan Cymru
Cafwyd 193 o dimau yng Nghwpan Cymru 2016-17[8].
Rownd Derfynol
Cwpan Y Gynghrair
Am yr ail dymor yn olynol llwyddodd clwb o du allan i Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd y rownd derfynol wrth i'r Barri o gynghrair Gynghrair Cymru y De gyrraedd y rownd derfynol i wynebu Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol ar faes Clwb Pêl-droed Met Caerdydd.
Rownd Derfynol
Cwpan Irn Bru
Ar gyfer tymor 2016-17, cafodd dau dîm o Uwch Gynghrair Cymru a dau dîm o Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon eu gwahodd i gystadlu yng Nghwpan Her Yr Alban[9] gyda'r Seintiau Newydd a'r Bala yn cael eu dewis i gynrychioli Uwch Gynghrair Cymru am orffen yn gyntaf ac yn ail ar ddiwedd tymor 2015-16.
Cynghrair y Pencampwyr Uefa
Cynhaliwyd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru, Caerdydd ar 3 Mehefin, 2017[10][11] rhwng Real Madrid a Juventus. Llwyddodd Cristiano Ronaldo i rwydo ddwywaith wrth i Real Madrid sicrhau eu 12fed Pencampwriaeth a daeth y Cymro, Gareth Bale, i'r maes fel eilydd yn yr ail hanner er mwyn casglu ei drydedd medal enillwyr Cynghrair y Pencampwyr[12].
Marwolaethau
- 5 Awst 2015: Mel Charles, 81, cyn chwaraewr Abertawe, Arsenal, Caerdydd, Port Vale a Chymru[13].
- 18 Hydref 2016: Gary Sprake, 71, cyn golwr Leeds United, Birmingham City a Chymru[14].
- 16 Tachwedd 2016: Len Allchurch, 83, cyn chwaraewr Sheffield United, Abertawe, Stockport County a Chymru[15].
- 1 Ebrill 2017: John Phillips, 65, cyn golwr Amwythig, Aston Villa, Chelsea, Brighton a Hove Albion Charlton Athletic a Chymru[16].
Cyfeiriadau