Mel Charles
Cyn-chwaraewr pêl-droed Cymreig oedd Melvyn Charles (14 Mai 1935 – 24 Medi 2016). Ganed ef yn Abertawe, yn frawd i'r pêl-droed John Charles. Rhwng 1952 a 1959, chwaraeodd dros 250 o gemau i C.P.D. Dinas Abertawe. Yn 1959, arwyddodd dros Arsenal am £40,000. Bu anafiadau yn broblem iddo yn y cyfnod yma, ond mewn tri thymor chwaraeodd 64 gwaith i Arsenal, gan sgorio 28 o weithiau. Yn 1962 symudodd i C.P.D. Dinas Caerdydd, lle treuliodd ddau dymor, gan chwarae 81 gwaith iddynt. Symudodd i C.P.D. Porthmadog am £1,250, cyn symud eto i Port Vale yn 1967. Bu'n chwarae wedyn i C.P.D. Croesoswallt a C.P.D. Hwlffordd. Chwaraeodd 31 gwaith dros Gymru, gan sgorio chwech o weithiau, gan gynnwys pedair gôl mewn gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yn 1961. Yn ei flynyddoedd olaf bu'n byw mewn cartref gofal yn Abertawe a bu farw yn 81 mlwydd oed.[1] Cyhoeddiadau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia