Len Allchurch
Cyn bêl-droediwr proffesiynol Cymreig oedd Leonard "Len" Allchurch (12 Medi 1933 – 16 Tachwedd 2016). Chwaraeodd yn y Gynghrair Bêl-Droed am bron i ugain mlynedd, yn chwarae ar y brig gyda Sheffield United a threuliodd gyfnodau hir gyda Dinas Abertawe a Stockport County. Fe'i ganwyd yn Abertawe yn frawd i'r pêl-droediwr Ivor Allchurch a chwaraeodd i Gymru yn rhyngwladol. Roedd yn nodedig am beidio derbyn unrhyw rybudd neu gerdyn drwy gydol ei holl yrfa yn y Gynghrair pêl-Droed.[1] Gyrfa clwbCychwynnodd ei yrfa gyda Dinas Abertawe ac ar ôl llofnodi termau proffesiynol yn Hydref 1950, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn 17 oed.[2] Ar ôl cwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, daeth yn chwaraewr tîm cyntaf rheolaidd ar gyfer y clwb, gan ymddangos yn rownd derfynol Cwpan Cymru 1956 a 1957.[angen ffynhonnell] Pan oedd rheolwr Sheffield United, John Harris, yn edrych i aildanio eu hymgyrch simsan ar gyfer dyrchafiad, cynigiodd £12,000 ar gyfer Allchurch ond gwrthodwyd y cynnig.[1] Yn y pendraw cytunwyd ar bris o £18000 ym Mawrth 1961.[1] Cafodd Allchurch effaith ar unwaith, gan sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf ac ychwanegodd pum gôl pellach yn saith gêm olaf y tymor, gan helpu ei glwb i ennill dyrchafiad. Arhosodd yn rhan bwysig o dîm cyntaf United am y tair blynedd ddilynol gan wneud dros 140 o ymddangosiadau i gyd gan sgorio 37 o gôl.[1] Ym Mawrth 1965, symudodd i dîm Stockport County yn Adran Pedwar, am £10,000, gan ddod y chwaraewr mwyaf drud i'w arwyddo yn hanes y clwb. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb ar 6 Medi 1965 gan guro Tranmere Rovers o 2–1 a helpodd y clwb ennill dyrchafiad i'r Drydedd Adran yn ei ail flwyddyn yn Edgeley Parc. Ar ôl ennill gwobr chwaraewr y flwyddyn y clwb yn ei dymor olaf, dychwelodd i glwb Dinas Abertawe lle gorffennodd ei yrfa broffesiynol.[3] Gyrfa ryngwladolYmunodd Allchurch a'i frawd Ivor yn nhîm cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn Ebrill 1955 yn erbyn Iwerddon.[4] Enillodd 11 cap dros ei wlad. Wedi pêl-droedAr ôl ymddeol aeth Allchurch i redeg gwesty yn Abertawe cyn rhedeg busnes nwyddau lledr.[1] Bu farw yn 83 oed ar 16 Tachwedd 2016.[5] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia