Arsenal F.C.
Clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr yw Arsenal Football Club (llysenw: The Gunners), sydd wedi'i leoli yn Stadiwm Emirates, yn Holloway un o faestrefi dinas Llundain sydd tua 3.3 milltir (5.3 km) i'r gogledd o Charing Cross. Hyd at 2016 roedd y clwb wedi ennill Cwpan Loegr 12 gwaith, uwch adran Lloegr 13 gwaith, Cwpan Cynghrair Lloegr dwyaith, a Tharian Cymuned Lloegr 14 gwaith. Arsenal oedd y clwb cyntaf yn ne Lloegr i ymuno gyda Cynghrair Pêl-droed Lloegr, a hynny yn 1893. Erbyn 1904 roedden nhw wedi cyrraedd yr adran uchaf (yr adeg honno) sef yr 'Adran Gyntaf' (First Division). Ers hynny, nhw yw'r ail dîm uchaf o ran pwyntiau.[1] Gan ond disgyn o'r adran uchaf unwaith yn unig, ym 1913, maent yn parhau â'r rhediad hiraf yn yr adran uchaf.[2] Yn y 1930au roedd Arsenal yn bencampwyr yr uwch adran ar bum achlysur, ac ennillon nhw Gwpan Lloegr ddwywaith. Wedi'r Ail Ryfel Byd fe enillon nhw un Gwpan Lloegr arall a dau Bencampwriaeth. Yn 1970–71 fe enillon nhw'r Dwbwl cyntaf: y gynghrair a Chwpan Lloegr yn yr un tymor. Rhwng 1988 a 2005 fe enillon nhw'r gynghrair bum gwaith a Chwpan Lloegr bum gwaith - gan gynnwys y Dwbwl ddwywaith. Ar ddiwedd 20g nhw oedd deiliaid y safle uchaf o ran cyfartaledd safleoedd cynghrair.[3] Prif gystadleuwyr Arsenal yw Tottenham Hotspur, ac maen nhw'n ymladd yn erbyn Darbi Gogledd Llundain. Mae Arsenal hefyd yn cystadlu â Chelsea, Manchester City a Manchester United.[4] ChwaraewyrChwaraewyr CymreigMae Arsenal wedi cael nifer o chwaraewyr Cymreig ar hyd y blynyddoedd.[5]
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia