John Roberts (pêl-droediwr)
Cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru a Wrecsam oedd John Griffith Roberts (11 Medi 1946 – 4 Ionawr 2016). Fe'i ganed yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf[1] a llwyddodd i ennill 22 cap dros Gymru rhwng 1971 a 1976. Gyrfa clwbDechreuodd Roberts ei yrfa fel ymosodwr gydag Abertawe gan ymuno â'r clwb fel amatur cyn troi'n broffesiynol ym 1964. Wedi tair blynedd ar y Vetch, symudodd i Northampton Town am £15,000 yn Nhachwedd 1967. Tra'n chwarae i Northampton symudodd o chwarae fel ymosodwr i chwarae yn yr amdiffyn[2]. Ym Mai 1969 penderfynodd Arsenal dalu £45,000 amdano a daeth yn aelod allweddol o'r garfan lwyddodd i ennill Cynghrair Lloegr a Chwpan FA Lloegr ym 1970-71[2]. Yn Hydref 1972 ymunodd Roberts â Birmingham City am £140,000 a chwaraeodd yn rheolaidd am y ddau dymor nesaf cyn i anaf cas ei orfodi absenoldeb hir dymor. Ym 1976, wedi methu a sicrhau ei le yn ôl yn nhîm Birmingham, symudodd i Wrecsam am £30,000 er mwyn cymryd lle Eddie May oedd wedi gadael am Abertawe. Roedd yn aelod allweddol o garfan Wrecsam lwyddodd i sicrhau dyrchafiad i'r Ail Adran a chodi Cwpan Cymru ym 1977-78. Gadawodd Wrecsam ym 1980 gan ymuno â Hull City am £15,000 ond daeth ei yrfa i ben oherwydd anaf ym Mehefin 1982[2]. Gyrfa ryngwladolGwnaeth Roberts ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Yr Alban ar Barc Ninian, Caerdydd ym 1971[3]. Roedd yn aelod o garfan Cymru chwaraeodd yng ngemau rhagbrofol Euro 1976[4][5] a casglodd yr olaf o'i 22 cap yn erbyn Yr Alban ym 1976[3]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia