Sam Vokes
Pêl-droediwr Cymreig ydy Sam Vokes (ganwyd Samuel Michael Vokes 21 Hydref, 1989), sy'n chwarae i Burnley yn Adran y Bencampwriaeth o Gynghrair Lloegr a thîm Cenedlaethol Cymru. Dechreuodd Vokes ei yrfa broffesiynol gyda Bournemouth yn Adran Un Cynghrair Lloegr gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ym mis Rhagfyr 2006[2], ac ar ôl cael ei gysylltu gyda Newcastle United, Aston Villa a Celtic[3] ymunodd â Wolverhampton Wanderers ym mis Mai 2008. ![]() Ar ôl treulio cyfnodau hir ar fenthyg â sawl clwb, ymunodd Vokes â Burnley ym mis Gorffennaf 2012 am ffi oddeutu £500,000[4]. Mae Vokes yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd fod ei daid yn Gymro[5] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm dan 21 Cymru yn erbyn Gogledd iwerddon yn 2007 gan sgorio ei gôl gyntaf wedi dim ond 36 eiliad.[6]. Casglodd ei gap llawn cyntaf mewn gêm gyfeillgar erbyn Gwlad yr Iâ ym mis Mai 2008[7] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia