Ffrainc
Gwladwriaeth yng ngorllewin Ewrop yw Ffrainc (Ffrangeg: France); enw swyddogol: Gweriniaeth Ffrainc (République française). Mae'n ffinio â Môr Udd, Gwlad Belg a Lwcsembwrg yn y gogledd, yr Almaen, y Swistir, a'r Eidal yn y dwyrain, Monaco, Môr y Canoldir, Sbaen ac Andorra yn y de, a Môr Iwerydd yn y gorllewin. Paris ydy'r brifddinas. Mae'r mwyafrif o bobl Ffrainc yn siarad Ffrangeg, unig iaith swyddogol y wlad, ond ceir sawl iaith arall hefyd, megis Llydaweg yn Llydaw, Basgeg yn y rhan o Wlad y Basg sydd yn ne-orllewin Ffrainc, Corseg ar ynys Corsica, ac Ocsitaneg - iaith draddodiadol rhan helaeth o'r De. Mae nifer o fewnfudwyr a'u teuluoedd, o'r Maghreb yn bennaf, yn siarad Arabeg yn ogystal. Hanes
Yng nghyfnod yr Henfyd, adnabyddid rhan helaaeth y diriogaeth sy'n awr yn Ffrainc fel Gâl, ac fe'i preswylid gan nifer o lwythau Celtaidd mewn sawl teyrnas frodorol annibynnol. Yn 125 CC ymosododd y Rhufeiniaid ar dde Gâl, yn dilyn cais am gymorth gan drigolion Groegaidd dinas Massilia. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarch daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw Gallia Narbonensis. Concrwyd gweddill Gâl gan Iŵl Cesar mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd Brwydr Alesia yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad Vercingetorix o lwyth yr Arverni. Daeth Gâl yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, a datblygodd diwylliant Galaidd-Rufeinig nodweddiadol yma. Daw enw presennol y wlad o'r Ffranciaid, yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair. Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen. Bu Ffrainc yn rhan o deyrnas Siarlymaen a'i fab Louis Dduwiol. Wedi marwolaeth Louis, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei dri mab yng Nghytundeb Verdun. Derbyniodd Siarl Foel Ffrancia Orllewinol, a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach. Yn 1337 dechreuodd rhyfel am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o Loegr a Brenhinllin Valois o Ffrainc, y Rhyfel Can Mlynedd. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, hyd 1453, ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am Calais, ond roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi eu hanrheithio. Dymchwelwyd y frenhiniaeth gan y Chwyldro Ffrengig rhwng 1789 a 1799. Cipiwyd grym gan Napoleon Bonaparte fel yr ymerawdwr Napoleon I, ac enillodd byddinoedd Ffrainc gyfres o fuddugoliaethau. Daeth y cyfnod o lwyddiannau i ben pan ymosododd Napoleon ar Rwsia yn 1812; collwyd y rhan fwyaf o'r fyddin wrth geisio dychwelyd o Rwsia. Alltudiwyd Napoleon i Ynys Elba wedi iddo gael ei orchfygu ym Mrwydr Leipzig, a phan geisiodd dychwelyd, gorchfygwyd ef yn Mrwydr Waterloo a'i alltudio i Ynys Sant Helena. Adferwyd y frenhiniaeth dros dro, yna daeth nai Napoleon yn ymerawdwr. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu ymladd anm flynyddoedd ar diriogaeth Ffrainc rhwng yr Almaen a Ffrainc a'i chyngheiriaid. Ymhlith brwydrau enwocaf byddinoedd Ffrainc yn y cyfnod yma mae Brwydr y Marne a Brwydr Verdun. Er i Ffrainc a'i chyngheiriaid fod yn fuddugol, dioddefodd y wlad golledion enbyd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Ffrainc yn un o'r Cynghreiriaid. Yn dilyn Brwydr Ffrainc ym 1940 rhannwyd Ffrainc fetropolitanaidd yn rhanbarthau a feddiannwyd gan yr Almaen a'r Eidal a rhanbarth Llywodraeth Vichy oedd yn cydweithio â Phwerau'r Axis. Yn ystod blynyddoedd y feddiannaeth, brwydrodd mudiad y résistance yn erbyn y meddianwyr a'r cydweithredwyr. Adferwyd sofraniaeth Ffrengig ym 1944 ac aeth y Cynghreiriaid ymlaen i ennill y rhyfel ym 1945. Daearyddiaeth
Tyfir gwenith yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, ac yno hefyd mae'r diwydiannau trymion. O gwmpas y maes glo sy'n ymestyn o Béthune hyd at Valenciennes mae'r diwydiannau haearn a dur, cemegau a gweolion. Mae ffatrioedd y cwmni rwber Michelin yn y Massif Central. Yn y de-ddwyrain tyfir gwinwydd, ffrwythau a llysiau ac wrth gwrs mae cynhyrchu gwin yn bwysig yn Ffrainc. Mae gan Ffrainc amrywiaeth mawr o ran tirwedd, o'r gwastadeddau arfordirol yn y gogledd a'r gorllewin i fynyddoedd yr Alpau a'r Pyreneau yn y de-ddwyrain a'r de-orllewin. Yn yr Alpau Ffrengig y mae Mont Blanc, y mynydd uchaf yng ngorllewin Ewrop gydag uchder o 4810 m. Mae ardaloedd mynyddig eraill yn ogystal, gan gynnwys y Massif central, y Jura, y Vosges, y massif armoricain a'r Ardennes. Mae sawl afon nodedig yn llifo trwy'r wlad, gan gynnwys Afon Loire, Afon Rhône (sy'n tarddu yn y Swistir), Afon Garonne (sy'n tarddu yn Sbaen), Afon Seine, ac Afon Vilaine. Demograffeg
Gyda phoblogaeth o 64.5 miliwn, saif Ffrainc yn 19eg ymysg gwledydd y byd. Mae tŵf naturiol (heb gynnwys mewnfudiad) y boblogaeth wedi cyflynu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2004, tyfodd y boblogaeth o 0.68%, tra yn 2006 roedd 299,800 mwy o enedigaethau nag o farwolaethau. Yn 2004, ymfudodd 140,033 o bobl i Ffrainc, 90,250 ohonynt o wledydd Affrica a 13,710 o Ewrob. Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ystadegau ac Astudiaethau Economaidd, roedd tua 4.9 miliwn o bobl wedi ei geni mewn gwledydd eraill yn byw yn Ffrainc, 2 filiwn ohonynt wedi dod yn ddinasyddion Ffrengig. Er fod poblogaeth y wlad yn cynyddu, mae poblogaeth llawer o ardaloedd gwledig yn parhau i leihau. Yn y cyfnod 1960-1999, gostyngodd poblogaeth pymtheg o départements gwledig; y gostyngiad mwyaf oedd 24% yn Creuse. Dinasoedd mwyaf Ffrainc yw:
Rhaniadau gweinyddol
Rhennir Gweriniaeth Ffrainc yn 27 région. Mae 21 ohonynt yn ffurfio'r Ffrainc gyfandirol, felly wrth gyfri Corsica hefyd, mae yna 22 région yn Ffrainc fetropolitanaidd. Y régions tramor — Guadeloupe, Martinique, Réunion, Mayotte a Guiana Ffrengig — yw'r 5 arall.
Rhennir y régions ymhellach yn 101 département. Mae pob un o'r régions tramor hefyd yn département ynddi'i hun. Mae rhif gan bob département rhif a ddefnyddir ar gyfer codau post, cofrestru ceir ac yn y blaen. Rhennir pob un o'r départements metropolitanaidd yn sawl arrondissement, a rennir wedyn yn cantons llai. Rhennir y cantons yn communes - mae yna 36,697 commune, ac mae cyngor trefol etholedig gan bob un. Rhennir communes Paris, Lyon a Marseille yn arrondissements trefol yn ogystal. Yr arrondissements dinesig enwocaf yw Arrondissements Paris, lle ceis 20 ohonynt. Yn ogystal â'r uchod, mae sawl tiriogaeth dramor gan Weriniaeth Ffrainc. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia