Haearn
Metel o liw llwyd yw haearn, sy'n elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Metel ydyw, ond anaml y'i ceir mewn ffurf fetelig ar wyneb y ddaear, gan ei fod yn ocsideiddio ym mhresenoldeb ocsigen a gwlybwr. Defnyddir y mwyn hematit (Fe2O3) yn amlaf i gynhyrchu haearn. Gall priodweddau haearn eu newid gan greu aloion ohono gydag amryw o fetelau eraill (a rhai an-fetelau, yn enwedig carbon a silicon) i ffurfio duroedd. Mae haearn yn rhan anhepgor o ddeiet achos y'i ddefnyddir i ffurfio hemoglobin yn y gwaed. Serch hynny, gall gormodedd o haearn fod yn wenwynig ac mae'n un o'r achosion tocsicolegol cyffredinaf o farwolaeth plant dan 6 oed. Gweler hefydDolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia