Aur
Metel melyn disglair meddal yw aur, elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Aur CymruDefnyddiodd y Celtiaid aur ar gyfer addurniadau cain iawn megis torchau aur a Chlogyn Aur yr Wyddgrug, sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng 1900-1500 CC yn ystod Oes yr Efydd. Mae'n fwy na thebyg i'r fantell gael ei siapio yng Nghymru ond i'r aur gael ei gloddio yn Iwerddon.[1] Cloddiwyd aur yn Nolaucothi, Sir Gaerfyrddin ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid: safle sydd ar Ystâd Dolaucothi ac sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Hyd y gwyddys, dyma'r unig olion o gloddio am aur gan y Rhufeiniaid ar ynysoedd Prydain. Dolaucothi yw’r unig fwynfeydd aur yng Nghymru tu allan i ardal Dolgellau. Ceir y ddau gloddfa yn ardal Dolgellau, Clogau (78,507 owns a gloddiwyd 1862–1911) a Gwynfynydd (40,054 owns o 1862–1916). Crefftwyd Disg Haul Banc Ty'n-ddôl o aur yng nghyfnod y Diwylliant Bicer Gloch (c. 2000 CC), sef y darn cynharaf o aur i'w ganfod yng Nghymru.[2] Ceir tystiolaeth hefyd bod tywysogion cynnar Cymru wedi gwisgo torchau aur – er nad yw'n glir, hyd yma, a oedd yr aur hynafol hwnnw yn cael ei gloddio yng Nghymru neu yn Iwerddon. EurychBôn y gair eurych yw aur. Crefftwr sy'n gweithio gydag aur yw 'eurych' neu 'eurof'. Yn yr oesoedd canol roedd yn grefftwr teithiol. Wrth i gymdeithas a'r economi ddatblygu dichon bod gwaith yr eurych proffesiynol wedi ehangu a wedyn bod y werin wedi dechrau defnyddio'r gair am unrhyw weithiwr crwydrol ac daeth yn air arall am dincar. O ran y sillafiad mae 'na gryn dipyn o amrywio rhwng 'e' ac 'y' (y sain glir) yn y Gymraeg. Pan fo'r llafariad yn ddiacen y digwydd hyn e.e. mae 'edrych' yn troi'n 'edrech' a phan ogledd-orllewineiddiwyd y gair cawsom 'edrach'. Dyddia'r dystiolaeth gynharaf o neu a > e mewn sillaf ôl-acennog o'r 16g. Byddai hyn yn egluro'r ffurf safonol 'eurych' a'r ffurf lafar 'eurach'.[3] Nodir tua 40 o enwau lleoedd y Nghymru yn cyfeirio at *eurych*[1] Diarhebion
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia