C.P.D. Bwrdeistref Conwy
Pêl-droed yng NghonwyY dyddiau cynnarMae clybiau pêl-droed wedi bodoli yng Nghonwy ers dechrau'r 20g gyda chlwb Conwy FC yn aelodau o Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru ym 1902-03[2] ac yn cystadlu yng Nghwpan Cymru ym 1909-10[3]. Borough UntedY clwb enwocaf o'r ardal oedd Borough United ffurfiwyd ym 1954 wrth i glybiau Conwy Borough a Chyffordd Llandudno uno. Llwyddodd Borough United i ennill Cwpan Cymru ym 1963 a dod y clwb cyntaf o Gymru i ennill gêm yn Ewrop wrth drechu Sliema Wanderers o Malta yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1963-64[4][5] Hanes Bwrdeistref ConwyFfurfiwyd Conwy United ym 1977 wrth i glybiau Tref Conwy a Conwy Royal British Legion uno [1] ac ymunodd y clwb â Chynghrair Cymru (Gogledd) ar gyfer tymor 1977-78[6]. Ffurfiwyd Cynghrair Undebol y Gogledd ym 1984 gyda Conwy yn ennill y Gynghrair yn ei thymor agoriadol ac eto ym 1985-86[7][8] ac ym 1990 daeth y clwb yn un o aelodau gwreiddiol y Gynghrair Undebol[9]. Ym 1992 ffurfiwyd Cynghrair Cenedlaethol Cymru gyda Conwy yn cael gwahoddiad i fod yn un o'r aelodau gwreiddiol ac ym 1995-96 gorffennodd y clwb yn y trydydd safle a sicrhau eu lle yn Nghwpan Intertoto 1996[10] le cafwyd gemau yn erbyn Charleroi o Wlad Belg, SV Ried o Awstria, Zaglebie Lubin o Wlad Pwyl a Silkeborg o Ddenmarc. Yn 2000 cwympodd y clwb allan o Uwch Gynghrair Cymru ac oherwydd problemau ariannol penderfynodd y clwb ddisgyn i Gynghrair Undebol y Gogledd yn hytrach na'r Gynghrair Undebol[1][11]. Record yn Ewrop
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia