C.P.D. Tref Treffynnon
Clwb pêl-droed o dref Treffynnon, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Tref Treffynnon (Saesneg: Holywell Town Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru. Ffurfwyd y clwb yn 1893 fel C.P.D. Treffynnon[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Ffordd Helygain. Hanes CynnarFfurfwyd C.P.D. Treffynnon (Saesneg: Holywell F.C.) ar ddechrau'r 1890au gyda swyddogion y clwb yn dangos diddordeb ymuno â chynghrair newydd y Welsh Senior League ym 1890[2] ond er i'r gynghrair gychwyn ar gyfer tymor 1890-91, nid oedd Treffynnon yn rhan ohono. Ymunodd Treffynnon â Chynghrair Arfordir Gogledd Cymru ar gyfer y tymor cyntaf ym 1893-94[3][4] ond erbyn 1902, roedd y clwb wedi dod i ben. Erbyn 1912-13 roedd clwb o'r enw C.P.D. Treffynnon Unedig (Saesneg: Holywell United F.C.) yn chwarae yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru[5]. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf parhaodd y clwb yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru hyd nes 1920-21[6] pan cafodd y gynghrair ei uno â Chynghrair Cenedlaethol Cymru (Saesneg: Welsh Football League). Ym 1930-31 llwyddodd clwb o'r enw C.P.D. Arcadians Treffynnon (Saesneg: Holywell Arcadians F.C.) i fod y clwb cyntaf i ennill Cynghrair Bêl-droed Cymru (Saesneg: Welsh Football League)[7]. C.P.D. Tref TreffynnonWedi'r Ail Ryfel Byd ffurfiwyd C.P.D. Tref Treffynnon (Saesneg: Holywell Town F.C.) gyda'r clwb yn ymuno â Chynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1949-50[8] cyn disgyn allan o'r gynghrair ym 1965-66 a chwarae yng nghynghreiriau lleol. Erbyn 1975-76 roedd y clwb yn chwarae ym Mhumed Adran Cynghrair Clwyd[9]. Bu rhaid disgwyl tan y 1980au ar gyfer unrhyw lwyddiant wrth i'r clwb ennill Cynghrair Clwyd a sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol y Gogledd a chafwyd gwahoddiad i fod yn rhan o gynghrair newydd y Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1990-91[10]. Yn 1992 cafodd y clwb wahoddiad i fod yn un o'r 20 clwb yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru gan orffen y tymor cyntaf yn y 6ed safle[11] cyn colli eu lle ym mhrif adran Cymru ar ddiwedd tymor 1996-97[12]. Sicrhawyd dyrchafiad yn syth yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru, ond tymor yn unig dreuliodd Treffynnon yn y brif adran cyn disgyn yn syth yn ôl i'r Gynghrair Undebol[13]. Anrhydeddau
† fel C.P.D. Treffynnon Unedig Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia