Derry
Dinas yng Ngogledd Iwerddon yw Dinas y Deri[1] neu Derry (Gwyddeleg: Doire[2] neu Doire Cholm Chille). Mater dadleuol yw pa ffurf ar yr enw a ddefnyddir yn Saesnegː fel rheol, mae'r Unoliaethwyr yn galw'r ddinas yn "Londonderry" a chenedlaetholwyr yn ei galw'n "Derry". Saif yr hen ddinas ar lan orllewinol Afon Foyle; mae'r ddinas erbyn hyn ar y ddwy lan. Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 2001 yn 83,652, gyda 90,663 yn yr ardal ddinesig. Mae'n agos i Swydd Donegal a ffin Gweriniaeth Iwerddon. Yn draddodiadol, sefydlwyd y ddinas gan y sant Colum Cille. Y digwyddiadau enwocaf yn ei hanes yw Gwarchae Derry yn 1688 - 1689 a Bloody Sunday ar ddydd Sul, 30 Ionawr 1972, pan saethwyd 13 o brotestwyr hawliau sifil yn farw gan filwyr Prydeinig, gyda un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad. Adeiladau a chofadeiladau
Chwaraeon
Pobl o Derry
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia