Stoke-on-Trent
Dinas yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Stoke-on-Trent[1] (a adnabyddir hefyd fel The Potteries). Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Stoke-on-Trent boblogaeth o 270,726.[2] Crëwyd y ddinas ym 1910 gan ffederasiwn chwe thref. Cymerodd ei enw o Stoke-upon-Trent, lle lleolid prif ganolfan y llywodraeth a phrif orsaf reilffordd yr ardal. Hanley yw'r brif ganolfan fasnachol. Y pedair tref arall yw Burslem, Tunstall, Longton, a Fenton. Mae'r ddinas yn bron i 12 milltir o hyd ac arwynebedd o 36 milltir sgwar. Yn 2001, roedd yn cynnwys poblogaeth o 240,636. Ei gefaill ddinas yw Erlangen yn yr Almaen. Tîm pêl-droed y ddinas yw Stoke City F.C. Mae Robbie Williams, sy'n enwog yn fyd-eang, yn dod oddi yno. Gweler hefydCyfeiriadau
Dolenni allanol
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd |
Portal di Ensiklopedia Dunia