Ken McKenna
Cyn chwaraewr pêl-droed ydy Kenneth "Ken" McKenna (ganwyd 7 Chwefror 1960) sydd yn is-reolwr ar Morecambe yn Ail Adran Cynghrair Lloegr. Gyrfa chwaraeDechreupodd McKenna ei yrfa gyda Tranmere Rovers gan wneud pedwar ymddangosiad yn Y Gynghrair Bêl-droed[1]. Gadawodd y clwb ym 1983 er mwyn ymuno â Telford United a Runcorn cyn dychwelyd i Tranmere ym 1987. Ymunodd ag Altrincham ar ddechrau tymor 1990-91gan sgorio 56 o goliau mewn 100 o gemau[2][3]. Ar ôl cyfnod gyda Barrow, ymunodd McKenna â Chonwy yn Uwch Gynghrair Cymru ym 1994 gan sefydlu record newydd yn ystod tymor 1995-96 o sgorio 38 gôl mewn 35 gêm ac ennill Esgid Aur y Gynghrair[4].Treuliodd dymor gyda Bangor ym 1997-8 a llwyddodd i sgorio yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Cei Connah wrth i’r Dinasyddion godi’r gwpan am y tro cyntaf ers 23 o flynyddoedd[5]. Ymunodd â chlwb Total Network Solutions y tymor canlynol lle roedd yn aelod allweddol o'r tîm gipiodd y bencampwriaeth yn 2000. Gyrfa rheoliCymrodd McKenna yr awenau fel rheolwr Total Network Solutions yn 2001 gan arwain y clwb i dair pencampwriaeth yn olynol yn 2004-05, 2005-06 a 2006-07 yn ogystal â chodi Cwpan Cymru yn 2005 ac arwain y clwb i Ewrop ar saith achlysur[2][5]. Gadawodd McKenna ei swydd gyda’r Seintiau yn 2008 ac wedi cyfnodau â Cammell Laird ac Altrincham, mae o bellach yn is reolwr yn Morecambe[6]. Yn 2013 cafodd McKenna ei urddo yn aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru[5]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia