19g - 20g - 21g
1870au 1880au 1890au 1900au 1910au - 1920au - 1930au 1940au 1950au 1960au 1970au
1922 1923 1924 1925 1926 - 1927 - 1928 1929 1930 1931 1932
Digwyddiadau
Genedigaethau
- 20 Chwefror - Sidney Poitier, actor
- 1 Mawrth - Harry Belafonte, actor a chanwr (m. 2023)
- 16 Ebrill - Pab Bened XVI
- 27 Ebrill - Coretta Scott King (m. 2006)
- 8 Mehefin - Jerry Stiller, digrifwr
- 23 Mehefin
- 30 Mehefin - Sleim Ammar, seiciatrydd a bardd o Tunisia (m. 1999)
- 4 Gorffennaf - Gina Lollobrigida, actores
- 20 Medi
- 1 Hydref - Tom Bosley, actor (m. 2010)
- 16 Hydref - Günter Grass, awdur (m. 2015)
- 18 Hydref - George C. Scott, actor (m. 1999)
- 20 Hydref - Joyce Brothers, seicolegydd a cholofnydd (m. 2013)
- 24 Hydref - Gilbert Bécaud, canwr (m. 2001)
- 25 Hydref - Barbara Cook, cantores (m. 2017)
- 28 Hydref - Cleo Laine, actores a cantores
- 29 Hydref
- 2 Tachwedd - Steve Ditko, arlunydd (m. 2018)
- 8 Tachwedd
- 7 Rhagfyr - Helen Watts, cantores (m. 2009)
Marwolaethau
- 5 Chwefror - Frances Hoggan, meddyg, 83
- 3 Mawrth - J. G. Parry-Thomas, gyrrwr rasio a pheiriannydd, 42
- 1 Mehefin - Lizzie Borden, llofrudd, 66
- 14 Mehefin - Jerome K. Jerome, awdur, 68
- 29 Gorffennaf - Freddie Welsh, paffiwr, 41
- 1 Medi - William John Parry, awdur a golygydd, 84
- 4 Tachwedd - Beriah Gwynfe Evans, gwleidydd a dramodydd, 79
Gwobrau Nobel
Tywydd
Cymru
- Cofnod o hanes y gwynt mawr, a'r don fawr, ar ddydd Gwener Hydref 28, 1927, o Borthmadog i Dalsarnau, a Maentwrog:
- ”Y storm a nodir uchod oedd y fwyaf a ddigwyddodd erioed hyd y gwyddom, ac nid gormodiaeth a fydd dim o'r hanes hwn a adroddir amdani, ond rhy brin a chynil. Ar ôl 2 o'r gloch y nawn cododd y gwynt yn raddol o'r De. Ar ôl 6 yr hwyr, cynyddodd wedyn, ac yr oedd yn ei nerth dychrynllyd rhwng 8 a 10, yna graddol leihaodd erbyn 12eg. Rhwng 8 a 9 daeth ton anferth (tidal wave) i Borthmadog, Talsarnau, a Maentwrog. Rhedodd i mewn i'r tai yn y rhannau isaf o Borthmadog gan beri dychryn mawr. Yn y cyfamser oherwydd methu dal ei phwysau, torrodd Cob y Llyn Bach yn fwlch tua 100 llath o hyd, a thynnodd hynny y don yn ôl nes y rhedodd i'r Traeth Mawr, ac oni bae hynny, ni wyr neb faint o ddifrod, a choll ar fywydau fuasai wedi digwydd yn y dre. Gwnaeth anrhaith fawr ar ben y Cob Mawr hefyd. Maluriwyd gwely Reilffordd Gul Ffestiniog ar ei ben, fel y bu raid ei hadgyweirio o ddydd Sadwrn hyd nos Lun, cyn y gellid mynd a thren y gweithwyr fore Mawrth i fynny. Taflodd y don y wal gul wrth ben, buasent yn mesur tua hanner y Cob. Bu amryw o motor lorries yn cludo'r ysbwriel ymaith o fore Sadwrn, hyd ddydd Llun. Taflodd y gwynt y rhan fwyaf o bolion pellebyr [sic. teligraff] llinell y G.W.R, i lawr rhwng gorsaf Porthmadog a Minffordd.
- Yr oedd y dŵr yn uwch o lawer na platform gorsaf y Penrhyn, a safai pobl ar feinciau, bocsus etc, i aros y tren yno. Tarodd y prif bibell ddwr yn ymyl y Gwaith Pylor gerllaw, a golchodd y don fawr dros y reilffordd a Phont Briwet, ac ysigodd y bont, a maluriodd y fences o bobtu, a thynodd y rwbel mewn llawer man odditan y reilffordd. O ochr Talsarnau i'r bont, ysgubodd y cob, sef gwely uchel y reilffordd yn glir ymaith, ac ystumiwyd y reiliau yn bob llun, a hongiai y slippers wrthynt yma ac acw, hyd orsaf Talsarnau, a bu cannoedd o ddynion yn ei thrwsio am tua pythefnos. Boddodd cannoedd o ddefaid, amryw wartheg, moch, ieir etc o gẃr ynys Llanfihangel hyd Glan y Wern, a Bron Tecwyn, ac ymhen rhai dyddiau wedi i'r dwr dreio, casglwyd cymaint ag a gafwyd o honnynt at eu [sic] gilydd yn un pentwr mawr, a thywalltwyd paraffin ar domen o goed i'w llosgi ar gae ger Capel Bron Tecwyn. Chwalwyd pob clawdd cerrig o'r Penrhyn hyd Dalsarnau, a llanwyd pob gwrych, gwifrau pigog, wire netting, â gwair, gwellt, brwyn etc. Chwalwyd cloddiau terfyn o bridd, neu dros y Cob mawr, drwy i garreg, neu rywbeth ei tharo. Gan y digwyddai fod y galw am gynyrch chwarel setts Minffordd yn isel ar y pryd, bu'r difrod ar reilffordd y G.W.R, o fantais i'r gwaith, oherwydd cludwyd oddiyno filoedd o dunelli o bob math gerrig i fyny i rai o ddwy i dair tunell o bwysau, i lanw agenau a wnaed yngwely y ffordd gan y don fawr, a'r môr, a buwyd yn eu cludo am fisoedd o dro i dro, oddi yno.” (Mwy am y storm hwn yn y Tywyddiadur.)[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Papurau Ioan Brothen LlGC
|