The Jazz Singer (ffilm 1927)
The Jazz Singer ("Y Canwr Jazz") oedd y ffilm sain gyntaf i ymddangos (UDA, 1927, 89m). Fe'i cyfarwyddwyd gan Alan Crosland. Seren y ffilm oedd y canwr jazz Al Jolson. Roedd yr aelodau cast eraill yn cynnwys May McAvoy, Warner Oland ac Eugenie Besserer. Er ei bod yn enwog fel "y ffilm sain gyntaf" a agorodd oes y talkies yn America a gweddill y byd, mewn gwirionedd mae The Jazz Singer yn ffilm fud sy'n cynnwys rhai traciau sain cerddorol. Ffilm hybrid oedd hi felly, yn pontio'r bwlch rhwng y ffilmiau mud a'r talkies newydd. Serch hynny roedd y ffilm yn garreg filltir yn hanes y diwydiant ffilm a diwylliant poblogaidd yr 20g. Stori eithaf syml am Jolson fel dyn ifanc yn ceisio gwneud ei farc ym myd showbiz yw hi, ac mae'n edrych yn ddigon hen ffasiwn ac anystwyth erbyn heddiw. Ond mae'n cynnwys ambell olygfa eiconig a chaneuon fel My Mammy sy'n gyfarwydd i bawb. |
Portal di Ensiklopedia Dunia