Ken Dodd
Digrifwr a chanwr-cyfansoddwr oedd Syr Kenneth Arthur Dodd OBE (8 Tachwedd 1927 – 11 Mawrth 2018). Roedd yn enwog am ei ddannedd sy'n ymwthio allan, gwallt gwyllt, ei ddwstwr pluog (neu ei "ffon goglais" fel y cyfeiria ato), a'i ymadroddion ffraeth. Yn bennaf, roedd ei berfformiadau'n dilyn traddodiad y neuaddau gerddoriaeth traddodiadol, er ei fod wedi ymddangos mewn ambell ddrama yn y gorffennol, yn cynnwys chwarae rhan Malvolio yn nrama Shakespeare Twelfth Night ar lwyfan yn Lerpwl ym 1971. Roedd wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau'n fyd-eang.[1] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn faciwî o Lerpwl a daeth i fyw ar fferm ym Mhenmachno lle dywedir iddo ddysgu ychydig o Gymraeg.[2] Fe'i ganwyd yn ardal Knotty Ash, Lerpwl lle bu'n byw drwy gydol ei oes a lle bu farw. Perfformiodd ei sioe olaf ar 28 Rhagfyr 2017, ond cafodd driniaeth yn yr ysbyty am haint yr ysgyfaint yn Ionawr 2018 a canslwyd weddill ei ddyddiadau perfformio am 2018. Priododd Dodd ei bartner ers 40 mlynedd, Anne Jones, ar 9 Mawrth 2018 yn eu tŷ yn Knotty Ash. Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach, yn 90 oed.[3] Fel canwrSenglau
TeleduFel comediwr
Fel actor
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia