Pêl-droed yng Nghymru 2011-12Tymor 2011-12 oedd y 127fed tymor i dîm cenedlaethol Cymru, 20fed tymor yn hanes Uwch Gynghrair Cymru a'r 125fed tymor o Gwpan Cymru. Timau Cenedlaethol CymruDynionGorffenodd Cymru, o dan reolaeth Gary Speed , yn bedwerydd yn eu hymgyrch i gyrraedd Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012 yn Wcrain a Gwlad Pwyl. Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp G[1] gyda Lloegr, Y Swistir, Bwlgaria a Montenegro hefyd yn y grŵp. Ar 27 Tachwedd, 2011 bu farw rheolwr Cymru, Gary Speed yn 42 mlwydd oed yn ei gartref ger Caer. Ym mis Chwefror 2012 trefnwyd gêm goffa gyfeillgar yn erbyn Costa Rica, gan mai yn erbyn Costa Rica y casglodd Speed ei gap cyntaf dros Gymru ym 1990. Penodwyd Chris Coleman yn olynydd i Speed a chymrodd yr awenau ar gyfer y gêm goffa yn ogystal â gêm gyfeillgar ddiwedd tymor yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd, America. Capiau CyntafCasglodd Ashley Richards ei gap cyntaf dros Gymru yn ystod y tymor. Canlyniadau
Grŵp GGrŵp Rhagbrofol G yng ngemau rhagbrofol ar gyfer Euro 2012 yn Wcrain a Gwlad Pwyl
Llwyddodd Lloegr i gyrraedd Euro 2012 yn Wcrain a Gwlad Pwyl gyda Montenegro yn colli yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec yn y gemau ail gyfle. MerchedO dan reolaeth Jarmo Matikainen dechreuodd Cymru eu hymgyrch i gyrraedd Ewro 2013 yn Sweden. Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp 4[2] gyda Ffrainc, Yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon ac Israel hefyd yn y grŵp. Canlyniadau
Uwch Gynghrair CymruDechreuodd tymor Uwch Gynghrair Cymru ar 12 Awst 2011 gyda Lido Afan yn cymryd eu lle ymysg y 12 Disglair ar ôl sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Cymru y De ar draul Hwlffordd orffennodd ar waelod y tabl yn nhymor 2010/11. Llwyddodd Y Bala i osgoi cwympo wedi i bencampwyr Cynghrair Undebol Huws Gray, gap Cei Connah, fethu sicrhau'r Drwydded Ddomestig angenrheidiol ar gyfer dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.
Source: Sgorio Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
Cwpan CymruCafwyd 190 o dimau yng Nghwpan Cymru 2011-12[3] gan gynnwys Tref Merthyr, Casnewydd a Wrecsam, er bod y tri yn chwarae ym mhyramid pêl-droed Lloegr. Llwyddodd Y Seintiau Newydd i godi'r gwpan am yr ail dro yn eu hanes
Rownd DerfynolGwobrauUwch Gynghrair CymruRheolwr y Flwyddyn: Carl Darlington (Y Seintiau Newydd) Chwaraewr y Flwyddyn: Mark Jones (Y Bala) Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: Kai Edwards (Castell-nedd) Cymdeithas Bêl-droed CymruCynhaliwyd noson wobrwyo Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ar 8 Hydref, 2012 Chwaraewr y Flwyddyn: Joe Allen (Abertawe) Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: Adam Matthews (Celtic) Chwaraewr Clwb y Flwyddyn: Joe Allen (Abertawe) Chwaraewr y Flwyddyn (Merched): Jessica Fishlock (Seattle Reign) Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn (Merched): Hannah Keryakoplis (Liverpool Ladies) Chwaraewr Clwb y Flwyddyn (Merched): Nadia Lawrence (Mets Caerdydd)
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia