Adam Matthews
Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Adam Matthews (ganwyd Adam James Matthews 13 Ionawr 1992). Mae'n chwarae i Sunderland yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru. Gyrfa clwbCaerdyddFel bachgen ifanc, roedd Matthews yn chwaraewr rygbi amryddawn yn ogystala denu sylw clybiau pêl-droed[2]. Roedd yn ymarfer yn rheolaidd gydag Academi Dinas Abertawe ond ar ôl torri ei fraich, collodd y cyfle i ymuno â'r Swans ac ymunodd gyda Chaerdydd pan yn wyth mlwydd oed[3]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gaerdydd ar 15 Awst 2009 mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Blackpool[4]. CelticYm mis Chwefror 2011 cyhoedd Celtic eu bod wedi cytuno i arwyddo Matthews yn ystod yr haf 2011 yn rhad ac am ddim[5]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Aberdeen ar 7 Awst[6] cyn chwarae ei gêm Ewropeaidd cyntaf yn erbyn Atlético Madrid ar 15 Medi 2011[7]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr i Celtic yn erbyn HJK Helsinki ar 1 Awst 2012[8]. SunderlandAr 3 Gorffennaf 2015, ymunodd Matthews â Sunderland ar gytundeb pedair blynedd am ffi o £2 miliwn.[9] Ar ôl cyfnod wedi ei anafu ac ar ôl dim ond dau ymddangosiad i Sunderland, ymunodd Mathews â Bristol City ar fenthyg ar 7 Mawrth 2016.[10] Gyrfa ryngwladolChwaraeodd Matthews i dimau dan-17, dan-19 a dan-21 Cymru a chafodd ei gap llawn cyntaf dros Gymru fel eilydd yn erbyn Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban yng nghystadleuaeth y Cwpan Celtaidd yn Nulyn ar 25 Mai 2011[11]. Cafodd Matthews wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2012.[12] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia