Tim Cahill
Pêl-droediwr o Awstralia ydy Tim Cahill (ganwyd Timothy Filiga Cahill, 6 Rhagfyr 1979) sy'n chwarae i'r Shanghai Shenhua yng Nghynghrair Chinese Super League yn y Tsieina ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Awstralia. Cyn symud i Efrog Newydd roedd yn chwarae ei bêl-droed yn Lloegr i Millwall ac Everton. Ganed Cahill yn Sydney, Awstralia i dad Seisnig o dras Wyddelig a mam o Samoa[1][2]. O'r herwydd, roedd yn gymwys i chwarae pêl-droed i Awstralia, Lloegr, Samoa a Gweriniaeth Iwerddon a phan yn 14-mlwydd-oed cafodd ei alw i garfan dan 20 Samoa ar gyfer Pencampwriaeth dan 20 Oceania[3]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd mewn colled 3-0 yn erbyn Seland Newydd a chwaraeodd ei ail gêm yn y golled 3-0 erbyn Fanwatw[4]. Yn 2002 cafodd Cahill gynnig i ymuno â charfan Gweriniaeth Iwerddon ond oherwydd ei ddwy gêm i dîm dan 20 Samoa, nid oedd yn gymwys, ond newidiwyd rheolau cymhwyster FIFA yn 2004 a penderfynodd Cahill ddewis cynrychioli Awstralia[5]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Socceroos mewn gêm gyfeillgar yn erbyn De Affrica ar 30 Mawrth 2004 yn Loftus Road, Llundain[6] a bellach, Cahill yw prif sgoriwr yn holl hanes pêl-droed Awstralia gyda 31 gôl ar ôl iddo rwydo dwywaith mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ecwador ar 5 Mawrth 2014[7]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia