Owain Tudur Jones
Cyn chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Owain Tudur Jones (ganwyd 15 Hydref 1984). Chwaraeodd i Dinas Abertawe, Norwich City, Inverness Caledonian Thistle, Hibernian a Falkirk yn ogystal ag ennill 7 cap dros dîm cenedlaethol Cymru. Ei daid yw Geraint V. Jones.[2] Uwch Gynghrair CymruYmunodd Tudur Jones â Dinas Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru o glwb Porthmadog yn y Gynghrair Undebol yn 2001 ac yn ei bedwar tymor gyda Bangor chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2002 ac yn Nhlws Intertoto yn 2002 yn erbyn Gloria Bistrita o Rwmania. Dinas AbertaweWedi cyfnod ar brawf gyda Dinas Abertawe yn ystod haf 2005, ymunodd Jones â'r clwb am £5,000[3]. Yn ystod ei dymor llawn cyntaf fel chwaraewr proffesiynol, gwnaeth 21 o ymddangosiadau a sgoriodd dair gôl. Llwyddodd hefyd i wneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm dan-21 Cymru. Ar ôl pedair mlynedd gyda'r Swans, a chyfnod ar fenthyg â Swindon Town yn 2008/09, symudodd Jones i Norwich City am ffi oddeutu £250,000[4]. Norwich CityGwnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf yn y golled 7-1 yn erbyn Colchester ar ddiwrnod agoriadol tymor 2009/10 a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb ar 18 Awst 2009 mewn buddugoliaeth 2-1 dros Brentford[5]. Methodd a sicrhau ei le yn rheolaidd yn nhîm Norwich City ac ar ôl cyfnodau ar fenthyg gyda Yeovil Town a Brentford, symudodd i'r Alban ac Inverness Caledonian Thistle yn 2011[6]. Inverness Caledonian ThistleGwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Inverness mewn colled 1-0 yn erbyn Hibs ond yn gynnar wedi'r gêm gyntaf, dioddefodd anaf i'w ben-glîn fyddai'n golygu ei fod angen llawdriniaeth[7]. Collodd chwe mis o'r tymor wrth wella o'i anaf ond sicrhaodd estyniad i'w gytundeb ym mis Mehefin 2012[8]. HibernianYm mis Mai 2013, symudodd i Gaeredin er mwyn ymuno â Hibernian[9] ond ar ôl cael ei ryddhau gan Hibs, ymunodd â Falkirk ym mis Medi 2014.[10] Ar 6 Mawrth 2015, wedi brwydro yn erbyn anaf arall, cyhoeddodd Jones ei fod yn ymddeol o bêl-droed[11]. RhyngwladolGwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lwcsembwrg ym mis Mai 2008[12]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia