Llanasa
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir y Fflint, Cymru, yw Llanasa.[1][2] Mae'n gorwedd tua 300 troedfedd i fyny wrth droed yr olaf o Fryniau Clwyd, tua 2 filltir a hanner i'r dwyrain o Brestatyn yng ngogledd-orllewin Sir Fflint. Y pentrefi cyfagos yw Talacre a Gwesbyr i'r gogledd, Ffynnongroyw i'r dwyrain a Gwaenysgor a Threlawnyd i'r gorllewin. Yn ogystal â phentref Llanasa ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Gronant, Gwesbyr, Pen-y-ffordd, Talacre, Trelogan a Ffynnongroyw; mae hefyd yn cynnwys y Parlwr Du, y pwll glo mwyaf yn Sir y Fflint. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4] HanesEnwir y plwyf ar ôl Sant Asa (Asaph). Ceir plasdy Castell Gyrn ar gyrion y pentref. Yn yr Oesoedd Canol roedd beddfaen a chreiriau Sant Asaph ar gadw yn Eglwys Llanasa cyn iddynt gael eu symud i Eglwys Gadeiriol Llanelwy, rywbryd cyn y flwyddyn 1281. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, claddwyd Gruffudd Fychan, tad Owain Glyndŵr, yn yr eglwys hynafol hon. Mae ei feddfaen cerfiedig yn goroesi: ceir arno y geiriau Lladin HIC LACET GRVFVD VACHAN ("Yma y gorwedd Gruffudd Fychan"). Yn ôl cofnodion yr eglwys, roedd y garreg hon yn gorwedd yng nghanol y côr deheuol ar un adeg. Ymddengys y cafodd corff Gruffudd Fychan ei gladdu yno tua 1369-1370 (ceir peth ansicrwydd am ddyddiad ei farwolaeth). Mae lleoliad ei weddillion yn anhysbys heddiw.[5] Cyfrifiad 2011Roedd poblogaeth y gymuned yn 4,820 yn 2001. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8] EnwogionGanwyd a magwyd y croniclydd a chyfieithydd Elis Gruffydd (c.1490-c.1552) yn Llanasa. Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia