Mancot
Pentref yng nghymuned Penarlâg, Sir y Fflint, Cymru, yw Mancot ( ynganiad ). Saif fymryn oddi ar briffordd yr A550, ychydig dros filltir i'r gogledd o dref Penarlâg. Gelwir rhannau o'r pentref yn Little Mancot,[1] Big Mancot[2] a Mancot Royal.[3] Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 3,462, gyda 16.2% ohonynt a rhyw wybodaeth o'r iaith Gymraeg. Mae yno swyddfa'r post, siop, milfeddyg, capel a thafarn. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jack Sargeant (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[5] GeirdarddiadYmddangosodd yr enw "mancote" yn 1282/3 ac mae'n gyfuniad o ddau air: 'Mana' (enw person) a "cot" (Hen Saesneg: "lloches"). Mae'n bosib mai lloches ar gyfer bugail o'r enw Mana (neu 'Manaw'?) oedd yma'n wreiddiol.[6] Enwogion
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia