Ysgeifiog, Sir y Fflint
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir y Fflint, Cymru, yw Ysgeifiog[1] (hefyd Ysceifiog).[2] Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd o'r briffordd A541 rhwng Nannerch a Caerwys. Mae'r dafarn, y Fox Inn, yn dyddio o'r 18g. Mae'r plwyf hanesyddol yn cynnwys pentref Licswm, i'r dwyrain. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4] Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8] EnwogionGaned a magwyd yr hynafiaethydd a chopïydd llawysgrifau Cymreig, John Jones, Gellilyfdy (c.1585-1657/8), ym mhlas bychan Gellilyfdy ym mhlwyf Ysgeifiog. Yma yr oedd y bardd William Edwards (Wil Ysgeifiog) yn byw yn hanner cyntaf y 19g, ac roedd John Owen (1733-76), un o arloeswyr Methodistiaeth yn Sir y Fflint, yn enedigol o Ysgeifiog. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia