Hannah Blythyn
Gwleidydd Llafur Cymru yw Hannah Blythyn sydd wedi cynrychioli etholaeth Delyn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers etholiad 2016.[1] Gyrfa wleidyddolDewiswyd Blythyn fel ymgeisydd Llafur Cymru dros etholaeth Delyn ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016. Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,480 o'r 23,159 pleidlais a fwriwyd (40.9%).[1] Mae Blythyn yn gyn gyd-gadeirydd LHDT Llafur.[2] Bu blythyn yn weinidog partneriaeth gymdeithasol tan fis Mai 2024, pan gafodd ei diswyddo gan Vaughan Gething am ollwng gwybodaeth i’r cyfryngau.[3] Ym mis Mehefin 2024, collodd Gething bleidlais o ddiffyg hyder, o 29 pleidlais i 27.[4] Blythyn oedd un o’r ddau aelod Senedd Llafur na phleidleisiodd.[5] Bywyd personolMae Blythyn yn lesbiad. Daeth yn un o'r tri aelod hoyw agored cyntaf o Gynulliad Cymru ar ei etholiad yn 2016.[6] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia