Bagillt
Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Bagillt.[1] Saif rhwng Treffynnon (3 km i'r gorllewin) a'r Fflint (2 km i'r de-ddwyrain). Poblogaeth Cymuned Bagillt yw 3,918 (Cyfrifiad 2001). Yn Llyfr Dydd y Farn (1086), ei enw oedd Backelie.[2] Benthyciad o'r Saesneg, wedi'i Gymreigio, yw'r enw felly. Mae Backelie yn ffurf ar y Saesneg Bacga's lea 'llannerch Bacga'.[3] Gerllaw, ceir tomen mwnt a beili o'r enw Mwnt Bryn Castell. Tyfodd Bagillt yn gyflym yn y 19eg ganrif. Codwyd Eglwys y Santes Fair yno rhwng 1837 a 1839 fel ymateb i hynny. Poblogaeth y plwyf yn 1901 oedd 2,637. Mae Bagillt yn enwog am greu'r rhod ddŵr enwog yn Laxey, Ynys Manaw. Enwyd llyn ar ôl y pentref yn Chubut, Patagonia, Yr Ariannin; sef Llyn Bagillt. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[5] Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8] Enwogion
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia