Saltney
Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Saltney ( ynganiad ). Hen enw Cymraeg ar y lle oedd "Morfa Caer". Saif ger y briffordd A5104 ar ochr gorllewinol dinas Caer, bron ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae i bob pwrpas yn un o faesdrefi Caer. Ar un adeg roedd diwydiannau megis adeiladu llongau a distyllu olew yn bwysig yma. Erbyn hyn, cymerwyd eu lle gan ddiwydiannau ysgafn a pharciau busnes. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 4,769. Dim ond 13.1% o'r rhain oedd ag unrhyw wybodaeth o'r Gymraeg, y ganran isaf o unrhyw un o gymunedau Sir y Fflint. Tua hanner milltir i'r gorllewin ceir pentref bychan Saltney Ferry. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia