Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Eglwys gadeiriol Anglicanaidd yn nhref Llanelwy, Sir Ddinbych, Cymru, yw Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae'n gadeirlan Esgobaeth Llanelwy a sedd Esgobion Llanelwy. HanesMae ei hanes cyn cyfnod y Normaniaid yng Nghymru yn dywyll. Codwyd yr eglwys gadeiriol ar ei safle bresennol tua'r flwyddyn 1100. Yn 1282 cafodd ei llosgi i lawr gan filwyr Edward I o Loegr yn ystod ei gyrch olaf ar Wynedd. Dechreuwyd ar y gwaith o godi adeilad newydd yn fuan wedyn ond ni chwbleuwyd y gwaith tan 1381. Dioddefodd yr adeilad newydd yn ystod rhyfel annibyniaeth Owain Glyn Dŵr pan losgwyd y cangelldy yn 1402; arosodd y rhan honno o'r adeilad heb do hyd tua 1480. Cafodd ei difrodi gan dân unwaith eto gan wŷr Oliver Cromwell pan gafodd y cangelldy ei losgi'n ulw. Yn 1869 adferwyd yr eglwys gadeiriol gan y pensaer George Gilbert Scott, ond effeithiwyd ar yr adeilad gwreiddiol yn sylweddol. Heddiw mae muriau mewnol yr adeilad yn ddigon plaen a diaddurn, diolch yn bennaf i waith Scott. Yn yr eil ddeheuol ceir delw cerfiedig yr esgob Anian, a fu'n esgob Llanelwy yn 1282 pan losgwyd y gadeirlan gan y Saeson. Yn ei ymyl ceir maen cerfiedig hynafol arall, a adnabyddir fel "Maen y Milgi" am ei fod yn dangos milgi yn hela sgawrnog; dywedir ei fod yn dod o feddrod tywysoges o'r enw Efa (aelod o deulu brenhinol Powys efallai).
Cofeb y Cyfieithwyr ac amgueddfa
O flaen y gadeirlan ceir cofeb i gyfieithwyr y Beibl i'r Gymraeg, gan gynnwys William Salesbury, cyfieithydd cyntaf y Testament Newydd cyfan i'r Gymraeg, a'r Esgob William Morgan, a benodwyd yn esgob Llanelwy yn 1601. Ceir amgueddfa yn y gadeirlan gyda hen Feiblau a darnau o gerflunwaith. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia