Prestatyn
Tref a chymuned ar arfordir gogleddol Sir Ddinbych, Cymru, yw Prestatyn.[1] Cyn ail-drefnu llywodraeth leol ym 1974, roedd hi'n rhan o Sir y Fflint. Mae gan y dref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Llwybr y Gogledd yn cychwyn/gorffen yn y dref. Lleolir Prestatyn tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Rhyl wrth droed y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Talacre a'r Gronant i'r dwyrain ac Allt Melyd a Diserth i'r de. Mae Caerdydd 206.3 km i ffwrdd o Prestatyn ac mae Llundain yn 301.7 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 32.2 km i ffwrdd. Mae Prestatyn yn dref glan môr poblogaidd gyda thraeth braf sy'n estyniad o draeth enwog Y Rhyl. Gorwedd canol y dref fechan tua hanner milltir i mewn o'r traeth. Erbyn heddiw mae nifer o stadau tai newydd yno ac mae canran uchel o'r boblogaeth yn bobl wedi ymddeol. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Gareth Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[3] Tarddiad yr enwTarddiad Hen Saesneg sydd i'r enw Prestatyn a'i ystyr yw 'fferm yr offeiriaid'.[4] HanesCeir olion "ffatri" bwyeill carreg o Oes Newydd y Cerrig ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn i gael eu gweithio cyn eu hallforio. Bu'r Rhufeiniaid yn weithgar yn ardal Prestatyn. Roedd ganddynt wersyll yno ar gyfer mwyncloddio am blwm. Gellir gweld rhai gwrthrychau o'r cyfnod Rhufeinig yn y llyfrgell leol. Roedd Clawdd Offa yn cychwyn ger safle Prestatyn, ond er bod Llwybr Clawdd Offa yn cychywn/gorffen yno nid oes llawer o'r clawdd ei hun i'w weld. Bu'r llecyn ym meddiant Mersia am gyfnod yn yr Oesoedd Canol Cynnar, ac mae'r enw Prestatyn ("Tref yr Offeiriad") yn dyddio o'r dyddiau hynny. Yn yr Oesoedd Canol rhoddodd ei enw i gwmwd Prestatyn, rhan o gantref Tegeingl. Codwyd Castell Prestatyn gan un o arglwyddi Normanaidd y Mers yn y 12g ond cafodd ei gipio a'i ddinistrio gan Owain Gwynedd. Ond arosodd Prestatyn yn bentref bychan dinod tan ganol y 19g a datblygiad twristiaeth yn y rhan yma o ogledd Cymru gyda dyfodiad y rheilffordd. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7] Atyniadau
ChwaraeonEnwogion
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia