Llandyrnog
Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandyrnog( ynganiad ). Saif ar y ffordd B5429, tua tair milltir i'r dwyrain o dref Dinbych a milltir i'r dwyrain o Afon Clwyd. Y prif gyflogwr yn y pentref yw Hufenfa Llandyrnog, sy'n cynhyrchu caws. I'r dwyrain o'r pentref mae bryngaer Moel Arthur. Ceir yma ddwy dafarn, y Golden Lion a'r Ceffyl Gwyn, a siop. Ceir yma hefyd ar gyrion y pentref ffatri laeth a chaws enfawr. Mae'r eglwys leol yn un o bedair eglwys ganoloesol yr ardal. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Teyrnog neu Tyrnog; credir fod yr adeilad presennol yn dyddio o'r 15g, ond mae'r fynwent gron yn awgrymu ei bod yn sefydliad hynafol iawn. Adferwyd yr adeilad gan y pensaer Fictoraidd Eden Nesfield rhwng 1876 a 1878. Ar ochr ddwyreniol yr eglwys mae ffenestr liw nodedig. Bu yma ysgol ers 1840 ac yn 1856 roedd 120 o blant ar y gofrestr.[1] Yn 2009 roedd 27 o blant.[2] Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia