Baner y Gambia![]() ![]() Mabwysiadwyd baner y Gambia neu baner Gambia yn swyddogol ar 18 Chwefror 1965 gydag annibyniaeth Gambia oddi ar ei chyn-feistri, Prydain. Mae'r faner yn un trilliw llorweddol gyda stibedi (o'r top i'r gwaelod) coch, glas a gwyrdd gyda ymylon gwyn o amgylch y lôn las ganol. SymbolaethMae gan y pedwar lliw yn y faner ystyr symbolaidd.
DyluniadNid yw'r bandiau coch, glas a gwyrdd yr un maint. Mae'r striben goch a gwyrdd un gwaith a hanner yn lletach na'r stribed las. Mae'r stribed goch a gwyrdd bob un rhan o dair uchder y faner a'r lon las yw 2/9. Ynghyd â'r ffiniau, mae'r lôn las hefyd yn draean o uchder. Mae'r ymylon felly yn 1/18 o uchder i'r faner. ![]() HanesHyd nes annibyniaeth ym 1965, roedd y Gambia o dan reolaeth Prydain. Dechreuodd y Prydeinwyr ymnsefydlu ar hyd glannau'r afon Gambia yn 1661 pan meddianwyd James Island, oddi hynny dechreuwyd adeiladu caerau ar ei hyd. Daeth yn 'protectorate' o dan adain Sierra Leone rhwng 1821 a 1888.[1] Gyda dod yn 'Crown Colony' yn 1888 roedd gan Gambia yr hawl i addasiad ei hun o faner trefedigaethol Prydain (y Blue Ensign Brydeinig) gyda'r arwyddlun ei hun.[2] Dyluniwyd baner y wlad annibynnol gan Louis Thomasi, a weithiau fel cyfrifydd.[3] Mae'n un o'r ychydig faneri Affricanaidd sydd ddim mewn lliwiau plaid wleidyddol na lliwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd.[4] Ni newidiwyd y faner adeg cydffederasiwn Senegambian o 1982 i 1989. Baneri eraill
Dolenni
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia