Baner Namibia![]() ![]() Mabwysiadwyd baner Namibia yn swyddogol ar 21 Mawrth 1990 diwrnod ei hannibyniaeth o Dde Affrica.[1] Dylunio![]() ![]() ![]() Derbyniodd yr Is-bwyllgor Symbolau Cenedlaethol 870 o geisiadau ar gyfer baner genedlaethol i Namibia. Cafodd chwe chynllun eu rhoi ar y rhestr fer; cafodd hyn ei ostwng i dri, rhai tair Namibiaid - Theo Jankowski o Rehoboth, Don Stevenson o Windhoek a Ortrud Clay o Lüderitz. Cafodd y tri chynllun hyn eu cyfuno i ffurfio baner genedlaethol Namibia, a fabwysiadwyd yn unfrydol ar 2 Chwefror 1990 gan y Cynulliad Cyfansoddol. Cydnabuwyd y tri dylunydd yn gyhoeddus gan y barnwr Hans Berker, cadeirydd yr is-bwyllgor, yn y seremoni ddadorchuddio ar 9 Mawrth 1990.[2] Fodd bynnag, gwnaed dau hawliad arall - honnodd De Affricaniad, Frederick Brownell, ei fod wedi cynllunio'r faner yn ei rôl fel South Herald State State.[3] Yr hawliwr arall oedd Briton Roy Allen a honnodd bod dyluniad y faner yn ganlyniad cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Hannes Smith o'r Windhoek Observer, a'i fod wedi ennill.[4] Yr hyn nad sydd mewn amheuaeth yw fod lliwiau y faner wedi eu seilio ar liwiau'r mudiad SWAPO (South West Africa People's Organisation), un o'r mudiadau a ymladdodd dros annibyniaeth i'w wlad. Mabwysiadwyd y faner yma yn 1971 ac mae iddo streipiau llorweddol glas-coch-gwyrdd sef lliwiau mwayf pwysig cenedl yr Ovamno, un o bobloedd brodorol mwyaf niferus y wlad.[1] SymbolaethEglurodd y cadeirydd symbolaeth lliwiau'r faner fel a ganlyn: [2]
Dyluniad![]() Mae gan y faner fand lletraws goch sy'n ymledu'n groeslinol o'r gornel ochr chwith isaf. Mae'r triongl uchaf yn las gyda haul aur gyda 12 pelydr triongl. Mae triongl, sef, rhan dde isaf y faner, yn wyrdd. Mae dyfais y streipen letraws o chwith i dde yn ymddangos mewn baner sawl tair gwlad arall yn Affrica, sef Tansanïa, Gweriniaeth y Congo a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Baneri eraill cyfredol Namibia
Baneri Hanesyddol tiriogaeth NamibiaYn ogystal â baneri sy'n hanesyddol i diriogaeth Sud-West Afrika, South West Africa ceir hefyd baneri a grewyd ar gyfer y 'tiriogaethau brodorol' (Bantustan /'homelands') a grewyd yn ystod cyfnod Apartheid o ran lywodraeth 'warchodol' De Affrica.
Cyn-faneri 'Homelands' (Bantustans) South West AfricaDolenni
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia