Baner Jibwti![]() ![]() Comisiynwyd baner Jibwti (Sillafiad Ffrangeg a Saesneg y wlad: baner Djibouti; Somalieg: Calanka Jabuuti; Arabeg: علم جيبوتي; Ffrangeg: Drapeau de Djibouti) yn swyddogol ar 27 Mehefin 1977.[1] Mae'r faner yn dangos triongl gwyn ar ochr y mast gyda seren bum pwynt coch ynddi; rhennir yr ymyl cyhwfan yn llorweddol yn ei hanner gyda hanner las las uwchben a hanner werdd isod. Symbolaeth![]() Ceir ystyron a symbolaeth arbennig i'r lliwiau:
DyluniadMae'r faner bresennol yn addasiad o faner y Ligue Populaire Africaine pour l'Independence (LPAI) a arweiniodd ymdrech annibyniaeth Jibwti a oedd yn drefedigaeth Ffrengig. Roedd gan y faner LPAI driongl coch gyda seren wen. Ar gyfer y faner genedlaethol, a dderbyniwyd gydag annibyniaeth, gosodwyd y seren mewn safle unionsyth yn hytrach na'i ddal mewn safle cam ac addaswyd cymhareb y faner hefyd.[1] Baneri HanesyddolArddelwyd y baneri isod ar diriogaet bresennol Jibwti:
Dolenni
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia