Baner Sambia![]() ![]() Cafodd baner Sambia (hefyd Zambia) ei mabwysiadu'n swyddogol ar 24 Hydref 1964. Mae'r faner yn dangos maes gwyrdd gydag eryr ehedig ar gornel dde y faner uwchben trilliw fertigol i mewn coch, du ac oren ar ochr cyhwfan y faner. Dyma'r faner genedlaethol [1] a'r lluman genedlaethol.[2] Mae'r faner yn unigryw am gynnwys y dyluniad yma, er, o gofio sut mae baneri yn chwifio, mae perygl mai prin bydd y gwyliwr yn gweld motiff yr eryr a'r trilliw. SymbolaethMae'r lliw gwyrdd ar y faner yn cynrychioli pridd ffrwythlon y wlad, mae'r coch yn cynrychioli'r gwaed sy'n llifo yn y frwydr am ryddid, mae pobl ddu yn cynrychioli poblogaeth Zambia ac oren yn cynrychioli adnoddau copr y wlad, yn rhan bwysig economi Zambia. Mae'r eryr uwchben y tri llwybr fertigol yn symbol o obaith y bobl Zambia.[3] DyluniadMae gan y faner ddyluniad anarferol gyda'r arwyddion gwahaniaethol ar ochr cyhwfan y faner (lle mae pob baner genedlaethol arall ar ochr y mast neu yn canton. Dyluniwyd y faner gan Zambian, Gabrielle Ellison.
HanesTan 1939, defnyddiwyd baner y Deyrnas Unedig fel baner Sambia. Fodd bynnag, yn 1939, defnyddiwyd y Lluman Glas Prydeinig gydag arfbais Gogledd Rhodesia (fel y gelwid Sambia ar pryd) ar yr ochr cyhwfan - fel sy'n gyffredin i bob baner drefedigaethol Brydeinig. Yn 1953, newidiwyd y faner gydag arfbais arall ar yr ochr dde oherwydd ymunodd Gogledd Rhodesia a De Rhodesia (Simbabwe gyfoes) â Gwlad Nyasa (Malawi gyfoes) i greu Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa. Gydag ennill annibyniaeth ym 1964, rhoddwyd enw newydd swyddogol i'r wlad, "Zambia" a baner newydd. Yn 1996 gwelwyd newid bychan i'r dyluniad, wrth i'r lliw gwyrdd oleuo a newidiwyd yr eryr i ymdebygu fwy i'r un ar arfbais y wlad.[4] Baneri Eraill
Dolenni
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia