Baner Gweriniaeth Canolbarth Affrica![]() ![]() Mae baner Gweriniaeth Canolbarth Affrica yn faner anghyfrfredin yn ei defnydd o streipiau. Fe'i cyflwynwyd i'r Ddeddfwriaeth ar 1 Rhagfyr 1958 gan yr Arlywydd Barthélémy Boganda pan ddaeth tiriogaeth drefedigaethol Ffrengig yng nghanolbarth Affrica, Oubangui-Chari yn wladwiaeth annibynnol dan yr enw Gweriniaeth Canolbarth Affrica. Gweledigaeth Boganda oedd y byddai tiriogaethau trefedigaethol Ffrainc yng nghanolbarth Affrica (Afrique équatoriale française) yn dod yn un wladwriaeth ffederal a hon byddai ei baner. Y tiriogaethau o'r AEF ddaeth maes o law yn wledydd annibynnol, ac nid yn rhan o un wladwriaeth ffederal fel y dymunodd Bagona yw: Tsiad, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Gabon a Gweriniaeth y Congo. Cynrychiolir rhan yn lliwiau'r faner. Roedd Camerŵn wedi ei rannu rhwng rhan Brydeinig a rhan Ffrengig, a gyd chyfnod annibynaieth, gadawodd Camerŵn Ffrengig gan uno â'r ochr Brydeinig. DyluniadCeir pedwar streipen llorweddol o'r un lled a hyd ar draw y faner gan ddechrau o'r uchaf: glas, gwyn, gwyrdd, melyn ac yna streipen goch o'r un lled, yn gwypo lawr ar draws u streipiau llorsweddol yng nghanol y faner. Ar ochr y chwith y streipen las, ceir seren pump pig felen.[1] Mae'r lliwiau gwyrdd, melyn a choch yn lliwiau y mudiad 'Rhyng-Affricanaidd' (pan-African) ac yn gyffredin i nifer o faner gwladwriaeth Affrica. Ysbrydolwyd y lliwiau yma gan liwiau baner Ethiopia, yr unig wlad Affricanaidd na feddianwyd gan wledydd tramor yn ystod yr 19g. Symboliaeth
HanesYn 1976 ystyriodd yr Arlywydd, Jean-Bedel Bokassa, faner newydd. Daeth hyn yn dilyn ei dröedigaeth i Islam o dan ddylanwad arweinydd Libya, Muammar Gaddafi. Cynnigiodd faner gyda lleuad cilgant ar yr aswy gyda seren ar y dde, ill dau yn lliw aur. Yn y canton, yn cymryd lle chwarter chwith uchaf y faner roedd dwy streipen llorweddol, aur uwchben gwyn. Fodd bynnag, ni fabwysiadwyd y cynnig a coronodd Bakossa ei hun yn "Ymeradwr Bokassa I" a newid enw'r wlad i Ymerodraeth Canolbarth Affrica. Ar 4 Rhagfyr 1976, disgrifiodd y cyfansoddiad newydd yr arwyddlun ar gyfer defnydd personol yr Ymerawdwr sef, baner o faes gwyrdd golau gydag eryr euraidd yn gorwedd ar seren 20 pegwn aur. Ysbrydolwyd yr ystondord gan ystondord eryr ymerodrol Napoleon. Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia