Baner Lesotho![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() Ers annibyniaeth yn 1966 mae Lesotho wedi newid ei baner genedlaethol sawl gwaith. Mabwysiadwyd baner gyfredol Lesotho ar 4 Hydref 2006 ar bedwar deg mlwyddiant annibyniaeth y wlad.[1] Adnabwyd y wlad fel Basutoland yn ystod y cyfnod drefedigaethol. Er gwaethaf y ffaith fod y wlad wedi ei hamgylchynu gan Dde Affrica bu'n drefedigaeth arwahân a daeth yn wladwriaeth annibynnol yn 1966. DyluniadMae'r faner gyfredol yn faner trilliw llorweddol, glas, gwyn a gwyrdd gyda "mokorotlo" ddu (het draddodiadol y Basotho, pobl y wlad) yn y canol. Bwriad y cynllun yw adlewyrchu cenedl sy'n heddychlon yn fewnol a chyda'i chymydog De Affrica, gan ddisodli'r hen ddyluniad baner a oedd yn cynnwys arwyddlun milwrol o darian, gwaywffon a chobiwr.[2][3]
Cyn-faneri Lesotho![]() Cyflwynwyd baner gyntaf Lesotho ar 4 Hydref 1966, diwrnod annibyniaeth Lesotho o'r Deyrnas Unedig. Roedd yn cynnwys het draddodiadol mokorotlo gwyn amlwg ar faes glas. Roedd y glas yn symbol o'r awyr a glaw; y gwyn am heddwch; y gwyrdd ar gyfer tir, a'r coch am ffydd. Dau ddeg un mlynedd yn hwyrach, mabwysiadwyd baner newydd, ar 20 Ionawr 1987. Cynlluniwyd y faner gan y Rhingyll Retšelisitsoe Matete, yn dilyn coup milwrol a dynnodd grym oddi ar Plaid Genedlaethol Basotho wedi iddynt fod am 20 mlynedd mewn grym.[5] Disodlodd darlun yr het gan darian Basotho draddodiadol ysgafn mewn lliw brown ynghyd ag assegai (picell neu waywffon drywanu draddodiadol) a'r knobkierrie (pastwn filrwrol). Newidiodd y cynllun lliw a'r patrwm hefyd, gyda maes gwyn trionglog yn sefyll dros heddwch ac yn lletraws ar waelod y faner stribed glas ar gyfer glaw a thriongl gwyrdd ar gyfer ffyniant. Baner Gyfredol ers 2006Yn 2006, dewiswyd baner newydd o bedwar cynllun arfaethedig; roedd yr holl ddyluniadau hyn yn cynnwys het Basotho brown yn hytrach na'r tarian. Yn dilyn hynny newidiwyd hwn i het Basotho ddu er mwyn cynrychioli Lesotho fel cenedl ddu. Cymeradwywyd y mesur i newid y faner gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 18 Medi 2006, gyda 84 o aelodau seneddol yn pleidleisio o'i blaid, 18 yn ei erbyn, a dau yn ymatal. Cafodd ei gymeradwyo wedyn gan y Senedd hefyd.[6] OrielBaneri Hanesyddol LesothoYstondardau Brenhinol
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia