Mallwyd
Pentref bychan a phlwyf yn ne-ddwyrain Gwynedd yw Mallwyd ( ynganiad ). Fe'i lleolir yn nyffryn Afon Dyfi ar briffordd yr A470 tua hanner ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Ar bwys y pentref mae cyffordd yr A458 o gyfeiriad Y Trallwng. Y pentrefi agosaf yw Dinas Mawddwy, tua dwy filltir i'r gogledd, ac Aberangell i'r de. Mae Afon Dugoed yn aberu yn Afon Dyfi ger y pentref. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2] HanesSaif y pentref bron ar yr hen ffin rhwng Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn. Hen enw'r pentref oedd 'Tre'r llan', safle eglwys blwyf Mallwyd yn hen gwmwd Mawddwy. Hon oedd ardal Gwylliaid Cochion Mawddwy, a gofféir o hyd yn enw y dafarn The Brigands yn y pentref. Yr eglwysYn ôl traddodiad sefydlwyd eglwys Mallwyd gan Sant Tydecho yn y 6g ar ôl iddo ddod i'r ardal o Gernyw. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 14g ac o adeiladwaith anghyffredin, yn hir ac isel ei ffurf gyda llofftydd yn y ddau ben. Mae llawer o'r dodrefn pren yn perthyn i'r 17g. Yr ysgolor John Davies oedd rheithor Mallwyd am 30 mlynedd ar ddechrau'r 17g; ceir cofeb iddo yn yr eglwys a godwyd ar ddau ganmlwyddiant ei farwolaeth. Pobl o Fallwyd
Cyfeiriadau
Oriel
Trefi a phentrefi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia