Blaenau Ffestiniog
Tref yng Ngwynedd, Cymru, yw Blaenau Ffestiniog( ynganiad ). Fe'i lleolir gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ganddi boblogaeth o 4,830 (Cyfrifiad 2001) (Gan gynnwys Llan Ffestiniog ). Mae Caerdydd 175.6 km i ffwrdd o Flaenau Ffestiniog ac mae Llundain yn 308.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sydd 29 km i ffwrdd. Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi. Mae'r wlad o gwmpas y dref yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau. Mae'r cylch yn cael ei wasanaethu gan bapur bro o'r enw Llafar Bro sy'n cael ei gyhoeddi unwaith y mis. Yn hanesyddol, roedd yn rhan o Sir Feirionnydd. HanesTyfodd y Blaenau yn gyflym o gwmpas y chwareli llechi yn ystod y 19g wedi i ŵr o'r enw Methusalem Jones ddarganfod llechfaen yn yr ardal yn yr 1760au. Agorwyd rheilffordd fach (Rheilffordd Ffestiniog heddiw) i gludo llechi o'r Blaenau i Borthmadog, oedd yn borthladd bach prysur yn y 19eg ganrif. Yn anterth y diwydiant llechi ar droad yr 20g, cododd poblogaeth y dref i 11,434 yn ôl cyfrifiad 1901, gan ei gwneud yn ail dref fwyaf gogledd Cymru ar ôl Wrecsam ar y pryd.[1] DiwylliantEisteddfod GenedlaetholCynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog ym 1898. Cerddoriaeth Gyfoes GymraegMae rhestr faith o fandiau chwyldroadol Cymraeg sy'n dod o Flaenau Ffestiniog, yn eu plith: Anweledig, Llwybr Llaethog, Mim Twm Llai, Frizbee, dau boi o Blaena, Llan Clan a Gwibdaith Hen Fran er enghraifft. Côr Meibion y BrythoniaidTrafnidiaethSaif Blaenau ar un pen Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n ei chysylltu â Chyffordd Llandudno a Llandudno trwy dirlun prydfrerth Dyffryn Lledr a Dyffryn Conwy. Ceir lein arall sydd ar gyfer twristiaid yn bennaf heddiw ond yn y gorffennol a fu'n dwyn llechi i'r cei ym Mhorthmadog, sef Reilffordd Ffestiniog. Mae'r A470 yn mynd trwy'r dref cyn dringo Bwlch y Gorddinan. Mae gwasanaethau bws cyson T22 i Borthmadog a Chaernarfon sy'n cysylltu â'r gwasanaeth i Fangor ac mae gwasanaethau bysus eraill i Landudno a Dolgellau. Mae gwasanaeth bws lleol hefyd sy'n cysylltu Tanygrisiau a Rhiwbryfdir gyda chanol y dref. YsgolionMae'r dref yn cael ei gwasanaethu gan dair ysgol gynradd, sef: Ysgol Manod, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Tanygrisiau. Mae'r ysgolion hyn yn bwydo'r ysgol uwchradd leol, Ysgol y Moelwyn. Clybiau a Chymdeithasau
CyflogaethEr fod y diwydiant chwareli llechi yn parhau i gyflogi nifer o bobl yn y dref, mae'r diwydiant hwn wedi cael ei ddisodli fel prif gyflogwyr gan ffatri Blaenau Plastics sydd â staff o tua 300. Rhai o gyflogwyr mawr eraill y dref yw ffatri Metcalfe, sy'n creu offer arlwyo, a phwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau. Mae dau gwmni cludiant ffyrdd mawr wedi eu lleoli yn yr ardal hefyd, sef 'Roberts Ffestiniog' o Lan Ffestiniog a 'E. Hughes' o'r Manod. Gwahanol Ardaloedd y Dref
Tafarnau'r Dref
Enwogion
Y GlawMae glaw y Blaenau yn ddihareb. Mae’r graff canlynol yn seiliedig ar ddata o Hanes Plwyf Ffestiniog yn dangos nad dihareb go iawn yw liquid sun brolia rhai trigolion y dref! Llyfryddiaeth
Gweler hefydCyfeiriadau
Dolen allanol
Trefi a phentrefi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia