Arwel Gruffydd
Actor, cyfarwyddwr a Chyn-Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yw Arwel Gruffydd (ganwyd Awst 1967). Bywyd cynnar ac addysgFe'i magwyd yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Dechreuodd berfformio ar lwyfan yn ifanc iawn, yn bennaf trwy gystadlu mewn eisteddfodau lleol, yn canu a llefaru. Yn naw oed ymunodd â Seindorf Arian yr Oakley.[1] Derbyniodd ei addysg uwchradd yn ysgol gyfun Y Moelwyn ac yna Coleg Prifysgol Bangor lle'r astudiodd Cymraeg fel prif bwnc a cherddoriaeth fel ail bwnc. Derbyniodd radd BA Anrhydedd yn y Gymraeg yn 1988. Derbyniodd ddiploma ôl-radd o ysgol ddrama Webber Douglas Academy of Dramatic Art, Llundain yn 1989. GyrfaTra roedd yn fyfyriwr ym Mangor, cafodd ei gastio i chwarae un o'r prif rannau mewn pennod o'r ddrama deledu Deryn (gyda John Ogwen yn y prif ran) gan Ffilmiau'r Nant, a hefyd yn y prif ran yn y ffilm Stormydd Awst gan gwmni teledu Gaucho, wedi'i chyfarwyddo gan Endaf Emlyn. Yn dilyn ei astudiaethau yn ysgol ddrama Webber Douglas, bu'n actio mewn dramâu llwyfan gyda Chwmni Theatr Gwynedd, Hwyl a Fflag a Theatr Bara Caws, gan fynd ymlaen i weithio'n rheolaidd fel actor ffilm, teledu, radio a theatr. Yn ddiweddarach aeth ati i ysgrifennu a chyfarwyddo ei ffilmiau byrion ei hun. Yn 2002 enillodd wobr Wobr D. M. Davies am un o'r ffilmiau hyn, Cyn Elo'r Haul, yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru, Caerdydd.[1] Hefyd yn 2002 enillodd wobr BAFTA Cymru, Actor Gwrywaidd Gorau, am ei waith ar y gyfres Treflan, gan gwmni teledu Al Fresco, wedi'i chyfarwyddo gan Timothy Lyn. Yn 2024, chwaraeodd e perfformiwr drag a rheolwr o'r clwb nos Neverland yng nghyfres deledu BBC Lost Boys & Fairies gan Daf James.[2][3] Roedd yn Rheolwr Llenyddol gyda chwmni ysgrifennu newydd Sgript Cymru rhwng Mawrth 2006 a Mawrth 2008, ac yna daeth yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru rhwng Mai 2008 ac Ebrill 2011, lle roedd yn gyfrifol am raglen Gymraeg y cwmni.[4] Fe'i apwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2011 a dechreuodd ar y gwaith ar 3 Mai,[5] yn gyntaf ar gytundeb pum mlynedd. Yng Ngorffennaf 2016 cyhoeddwyd bod ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei ail-benodi am bum mlynedd arall.[6] Parhaodd yn y swydd hyd Mai 2022. Ers hynny, mae'n gweithio ar ei liwt ei hun fel actor, awdur a chyfarwyddwr theatr. GwaithActioFfilmiau
Teledu
CyfarwyddoDramâu llwyfan
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia