Ymgais at ddenu cynulleidfa Cwmni Theatr Cymru a ddaeth i ben ym 1984, oedd nôd sefydlu Cwmni Theatr Gwynedd, yn ôl y dramodydd a'r darlithydd drama, Roger Owen. Ychwanegodd bod y cwmni "...â'i fryd ar adfer y math o waith a gyflwynwyd cyn 1982, pan oedd y cwmni dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts".[1] Ond bu dau ddigwyddiad nodedig yn rhan o hanes creu'r cwmni; nid yn unig methdaliad Cwmni Theatr Cymru, ond penderfyniad Cyngor y Celfyddydau ym 1981 i dorri'r grant i theatrau rhanbarthol, nad oedd â chwmni theatr preswyl.
"Math ar gwmni theatr cenedlaethol de facto" oedd y Cwmni, yn ôl Roger Owen; "Cwmni â'i wreiddiau yn ddwfn yn ei fro ei hun [...] cwmni a weithredai ar sail adnabod ei gynulleidfa'n fanwl. [...] Nid oedd fawr o wahaniaeth rhyngddo a theatrau rep rhanbarthol Lloegr, neu hyd yn oed y West End yn Llundain: roedd yn ganoledig, yn broffesiynol ac yn 'gyfreithlon'".[1]
Ar gyfartaledd, cynhyrchwyd tri cynhyrchiad y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn teithio i ganolfannau led-led Cymru.[2] Oherwydd diffyg gofod yn Theatr Gwynedd ei hun, ac am nad oedd ystafelloedd ymarfer yno, lleolwyd storfeydd celfi ac ymarferion y cwmni, mewn uned ar stad ddiwydiannol ger Treborth, ar gyrion Bangor.
Yn y dyddiau cynnar, y panel ymgynghorol artistig oedd yn gyfrifol am y dewis, cyn penodi'r athrylith Graham Laker fel arweinydd artistig yn Haf 1990, nes iddo ymddiswyddo ym 1997.[3] Wedi ymadawiad Laker, gwahoddwyd sawl cyfarwyddwr gwâdd i lwyfannu cynyrchiadau gan gynnwys Ian Rowlands a Sian Summers, cyn penodi Sian yn arweinydd artistig llawn amser ym 1998. Penderfynodd Sian newid arlwy'r cwmni gan gefnu ar y Clasurol, a symud fwy fwy at ddramâu cyfoes, ysgafn a beiddgar.
Pan gafodd adeilad Theatr Gwynedd ei gau yn 2008, er mwyn ailddatblygu'r safle i wneud lle ar gyfer adeilad Pontio, daeth y cwmni'n ddigartref, a penderfynwyd dod â'r cwmni i ben.[4]
Cyfarwyddwyr artistig
Graham Laker (1990-1997) - cafodd ei benodi'n swyddogol fel arweinydd artistig yn Haf 1990, er ei fod wedi cyfarwyddo sawl cynhyrchiad i'w cwmni ers 1986.[3]