Fe'i ganed yn Nolgellau yn ferch i deiliwr alcoholig.[2] Mynychodd Ysgol breswyl Dr. Williams i ferched wedi iddi dderbyn ysgoloriaeth. Cymerodd ran mewn dramâu yn yr ysgol cyn mynd yn fyfyrwraig i Goleg Drama Rose Bruford yn Llundain. Tra yno, cyfarfu a Freddie Jones sef un o brif actorion y theatr yn Lloegr a datblygodd berthynas rhyngddynt.[2] Serch hynny, ar ôl iddi orffen ei chwrs dychwelodd i Ddolgellau.
Gyrfa
Bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru yn y 1970au gan berfformio a chyfarwyddo sawl cynhyrchiad, ac yn ddiweddarch gyda Theatr Bara Caws. Bu'n gweithio fel actores tan y 1990au gan berfformio mewn cynyrchiadau ar gyfer y BBC, Cwmni Theatr Cymru, ambell gynhyrchiad Saesneg a dramâu S4C yn y 1980au. Roedd yn adnabyddus am chwarae y wraig tŷ Gwen Elis yn y gyfres ddrama Minafon. Bu Williams yn gweithio gyda'r cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr drama Wilbert Lloyd Roberts ar amryw o ddramâu teledu arloesol gan gynnwys A Rhai yn Fugeiliaid gan Islwyn Ffowc Elis (1961) a'r Byd ar Betws, gyda David Lyn a Gaynor Morgan Rees.
Talodd yr actor Dyfan Roberts deyrnged hyfryd iddi, wedi ei marwolaeth cyn-amserol yn 2004:
"Sut y disgrifiodd Sharon Morgan hi? Y gair oedd ‘ethereal’. Arallfydol. Stewart Jones yntau yn ei gweld am y tro cyntaf pan oedd hi’n athrawes ifanc yn ysgol Dr. Williams Dolgellau, ac yn dal sylw ar y tawelwch yna, yr ‘aura’ o’i chwmpas hi. Michael Povey yn dweud yr hanes amdano’n mynd am gyfweliad efo Cwmni Theatr Cymru am y tro cyntaf [...] Ond o gornel ei lygaid, yn y blwch rheoli, gwelai Michael bresenoldeb arall. Dynes hardd gwallt coch yn edrych a gwrando arno â ddiddordeb o’r tu hwnt i’r gwydr. O ble daeth y rhyfeddod prin yma? Pwy oedd Beryl Williams? Holi nifer o gyfoedion, cydweithwyr a ffrindiau Beryl wrth baratoi’r erthygl hon, a chael yr un ateb. ‘Roedd pawb yn ei hadnabod- at ryw bwynt. Ond roedd ‘na ffîn na châi neb weld ei ddatgelu. Mae’n eironig bod actores yn berson mor breifat. Osgoi sylw fel y pla â wnai Beryl. Ond o edrych yn ôl wedi ei marwolaeth gynamserol, yn y preifatrwydd yna yr oedd ei chryfder. Roedd y dirgelwch yna, yr ‘enigma’ fel y galwodd John Ogwen o, yn ychwanegu at ddyfnder ac at gryfder perfformiadau a dylanwad actores arbenica’r Gymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif"[2]