Anweledig
Band o Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru oedd Anweledig, roeddynt yn chwarae amrediad o arddulliau Ffync, Reggae, Ska a Roc. Aelodau'r band oedd: Ceri Cunnington (prif lais), Gai Toms (gitâr,cyfansoddi, llais), Iwan 'Oz' Jones (gitâr flaen), Rhys Roberts (gitâr fâs), Alwyn Evans (drymiau) a Joe Buckley (allweddellau) ynghyd ag adran chwyth, 'Y Tri Tôn'. Daeth Anweledig i'r amlwg yn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg yn 1998, wrth ryddhau eu halbwm gyntaf, Sombreros yn y Glaw ar label Crai. Wedi ffurfio yn 1991, dros amser cawsant gigiau â'r Super Furry Animals, Ffa Coffi Pawb, Geraint Jarman ac eraill. I gyd-fynd a'u halbwm cyntaf, recordiwyd fideo ar gyfer sioe S4C, i-Dot, o'r gân 'Fan Hyn'. Yn 1999, rhyddhawyd EP Cae yn Nefyn, eto ar label Crai. Yn arwydd o'u llwyddiant ar y pryd, roeddent yn brif fand yn Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn y blynyddoedd canlynol, rhyddhawyd nifer o CDs gan y band sef Scratchy (Sengl, 2000), Gweld y Llun (Albwm, 2001) a Low Alpine (Sengl, 2001). Gwnaeth hyn Anweledig yn adnabyddus dros Gymru, gyda'u sain unigryw yn gymysgedd o lawer o ddylanwadau. Yn 2002, aethant ar daith drwy Lydaw, cyn cymryd toriad er mwyn canolbwyntio ar brosiectau eraill megis Mim Twm Llai (Gai Toms) a Vates (Oz). Yn 2004, ailffurfiodd y band gan ail-ddechrau gigio a rhyddhau'r EP Byw. Yn y cyfamser, ymunodd Rhys Roberts i chwarae'r gitâr fâs i'r band roc Sibrydion. Ar ôl cyfnod tawel arall, ailffurfiodd Anweledig am gig fawreddog yn Nhân y Ddraig yn Awst 2006, â'r Proclaimers yn eu cefnogi. Chwaraeodd Anweledig eu gig olaf yng Ngwesty'r Queens, Blaenau Ffestiniog y dydd ar ôl Ŵyl San Steffan 2008, bron union 16 mlynedd ers cychwyn y band. Discograffiaeth
Dolenni
|
Portal di Ensiklopedia Dunia