Aberllefenni
Mae Aberllefenni ( ynganiad ) yn bentref yn ne Gwynedd, yn nyffryn Afon Dulas ac ar y ffordd gefn sy'n gadael y briffordd A487 ym mhentref Corris; cyfeirnod OS: SH 77044 09940. Mae'r ffordd yma yn arwain tua'r gogledd-ddwyrain i Aberllefenni, yna'n troi tua'r dwyrain i Aberangell. Mae'r pentref yn rhan o gymuned Corris. HanesAr un adeg yr oedd y diwydiant llechi yn bwysig iawn yma, ac y mae olion hen chwareli o gwmpas y pentref. Roedd chwareli Foel Grochan, Hen Chwarel a Ceunant Ddu gyda'i gilydd yn ffurfio Chwarel Lechi Aberllefenni. Roedd Rheilffordd Corris yn gorffen yn Aberllefenni, ac yn cario llechi i Fachynlleth. Cysylltid y chwareli mwyaf pellennig a'r rheilffordd gan Dramffordd Ratgoed. Credir fod y ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd trwy'r pentref, ac efallai fod yr enw Pensarn am deras o dai yma yn cyfeirio ati. Ar un adeg gelwid Llyn Cob yn "Llyn Owain Lawgoch", er nad oes cofnod hanesyddol o Owain Lawgoch yn yr ardal yma. Ymhlith yr adeiladau diddorol mae Plas Aberllefenni. Roedd rhannau o hwn wedi eu hadeiladu yn y Canol Oesoedd, ond tynnwyd y rhan yma i lawr yn y 1960au, a dim ond rhannau mwy diweddar a gadwyd. Bythynnod chwarelwyrYn yr 16g cafodd tai a bythynnod eu hadeiladu yn y pentref i ddarparu llety i'r chwarelwyr a oedd yn gweithio yn Aberllefenni. Yn 1956 prynodd cwmni Wincilate Limited - cwmni o ogledd Cymru - Chwarel Aberllefenni ac yn 1964 Chwarel Braich Goch yng Nghorris. Daeth naw o dai rhes ac amryw fythynnod i eiddo'r cwmni hefyd. Yn 2016 daeth cwmni D Meredith a'i feibion yn berchnogion newydd Chwarel Aberllefenni, ynghyd a'r tai. Rhoddwyd 16 o dai ar y farchnad y flwyddyn honno, i'w gael eu gwerthu gyda'i gilydd. Yn 2022, gwerthwyd y tai i gwmni Cwmni Walsh Investment Properties, Llundain am tua £1m.[1] Roedd pryder ar y pryd am rhent y tai yn codi yn sgîl y berchnogaeth newydd, gydag un tŷ yn wynebu cynnydd o dros 60% ym mhris eu rhent. Dywedodd y perchnogion newydd bod "rhan fwyaf o'r eiddo wedi bod yn talu rhent isel ers nifer o flynyddoedd" ac roeddent yn "bwriadu codi'r holl renti i ddod â nhw yn unol â gwerthoedd cyfredol y farchnad".[2] Pobl o Aberllefenni
Gweler hefydDolenni allanol
Trefi a phentrefi
Dinas
|
Portal di Ensiklopedia Dunia