Cricieth
Tref hanesyddol a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Cricieth (ffurf amgen, ansafonol: Criccieth).[1][2] Saif ar arfordir deheuol Eifionydd. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4] Saif amddiffynfa trawiadol Castell Cricieth fel cawr uwch y dref. Saif y dref 8km (5mill) i'r gorllewin o Borthmadog, 14 km (9mill) i'r dwyrain o Bwllheli a 27 km (17mill) i'r de o Gaernarfon. Roedd ganddi boblogaeth o tua 1,826 yn 2001.[5] Enillodd y dref wobr Cymru yn ei Blodau yn 1999. Cynhelir cystadleuaeth Y Dyn Cryfa (am godi carreg fawr o flaen y Neuadd Goffa) bob blwyddyn ym mis Mehefin.[6] HanesEnwCrug y caethion (crug + caith) yw ystyr enw Cricieth yn ôl arbenigwyr enwau lleoedd; cyfeiria'r enw at garchar y castell yn ôl pob tebyg.[2] "Kruceith" yw'r sillafiad cynharaf ar gofnod.[7] Yn y 14g, mewn llythyr at Hywel y Fwyall, Ceidwad y Castell, "Cruciaith" oedd yr enw a ddefnyddiwyd.[8] CynhanesGwyddom fod yma bobl yn byw'n yr ardal yn yr Oes Efydd cynnar, fel y dengys siambr gladdu Cerrig Cae Dyni i'r dwyrain o'r dref. Ceir olion cwpannau Celtaidd, sef celfyddyd gynnar ar y saith carreg, sy'n beth hynod o anghyffredin.[9] Ganganorum Promontorium (Penrhyn y Gangani) oedd enw Ptolemi ar yr ardal; llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Gangani. Oes y Tywysogion
Codwyd y castell Cymreig hwn yn 1230 gan Lywelyn ab Iorwerth a reolodd yr ardal ers 1202; ond mae'r cofnodion ysgrifenedig yn nodi mai yn 1239 y'i codwyd, pan symudwyd pencadlys Eifionydd yma o Ddolbenmaen. Tyfodd tref fechan wrth droed y Castell yn yr Oesoedd Canol. Eisteddfod GenedlaetholCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghricieth ym 1975, ble'r enillodd Gerallt Lloyd Owen y gadair am ei awdl "Yr Afon". Y tywydd yng Nghricieth
Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[11][12][13] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia